Mae'r artist lleol ac Artist Cyswllt Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan-yr-Afon, Connor Allen, wedi llwyddo i gael £20,000 gan Gronfa Gwaith Byw Jerwood Arts. 

Derbyniodd y gronfa dros 1,200 o geisiadau ac mae Connor yn un o ddim ond 33 o artistiaid ledled y DU sydd wedi bod yn llwyddiannus. 

Bydd Connor yn defnyddio'r arian i sefydlu cymundod o artistiaid du proffesiynol o bob oed sy'n gweithio ar draws gwahanol ddisgyblaethau artistig ac sydd wedi'u lleoli yng Nghymru.  Bydd y cymundod yn cefnogi datblygiad artistiaid yn ystod yr heriau a wynebir oherwydd y pandemig presennol gan gynnwys mentora, rhannu a chefnogi ymarfer artistiaid eraill yn ogystal â sicrhau mwy o gynrychiolaeth a chyfleoedd proffesiynol i fwy o artistiaid du dyfu a symud ymlaen. Bydd aelodau'n gweithio gyda'i gilydd i ddysgu a datblygu yn ogystal â rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned gelfyddydau ac ysbrydoli'r genhedlaeth iau o egin artistiaid du.

Crëwyd y Gronfa Gwaith Byw mewn ymateb uniongyrchol i'r effaith y mae pandemig Covid wedi'i chael ar artistiaid hunangyflogedig ledled y DU ac mae'n ganlyniad i bedwar prif arianwyr celfyddydol (Jerwood Arts, Sefydliad Wolfson, Sefydliad Esmée Fairbairn ac Ymddiriedolaeth Linbury) yn dod at ei gilydd i ddyfarnu dros £660,000 i ymgeiswyr llwyddiannus.

Wrth siarad am y bwrsari a'r prosiect dywedodd Connor "Ni fyddai fy nhwf fel artist a datblygiad y prosiect hwn a'm syniad cymundod wedi bod yn bosibl heb fwrsari Jerwood a chefnogaeth llawer o sefydliadau fel Glan-yr-Afon sydd wedi bod yn allweddol i fy llwyddiant ers i mi ddod yn Artist Cyswllt.

"Rwy'n credu y gall effaith fy syniad cymundod fod yn gyffrous ac yn ddylanwadol yn y maes oherwydd bydd yn rhoi cyfle i artistiaid o liw yng Nghymru ddatblygu eu hunain ac archwilio eu crefft ochr yn ochr â'm harchwiliad fy hun drwy gydol 2021. Mae gan hyn y potensial i feithrin y don nesaf o artistiaid cyffrous o liw o Gymru sydd, yn fy marn i, yn anhygoel ac sydd ei hangen yn fawr."

Ers graddio o Brifysgol y Drindod Dewi Sant fel Actor, mae Connor Allen, a anwyd yng Nghasnewydd wedi gweithio gyda chwmnïau fel Theatr The Torch, Theatr y Sherman, Theatr Tin Shed a Theatr Genedlaethol Cymru. Ymunodd â Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan-yr-afon fel Artist Cyswllt yn 2020. 

Yn ystod y 12 mis diwethaf, er gwaethaf yr amgylchiadau anodd y mae'r pandemig wedi'u creu i artistiaid, mae Connor wedi ysgrifennu a pherfformio sawl darn ar draws De Cymru gan gynnwys Dom’s Drug Prayer fel rhan o Deg Theatr y Sherman a The Making of a Monster yng Ngŵyl Theatr Ar-lein Right Now Le Public Space. Fe'i comisiynwyd hefyd gan Llenyddiaeth Cymru i greu albwm ar-lein o gyfryngau creadigol, 27, casgliad o feddyliau o'i fywyd, y daith y mae wedi bod arni a'r gwersi y mae wedi'u dysgu.

Dywedodd Olivia Harris, Cynhyrchydd Creadigol Glan-yr-Afon "Rydym wedi bod yn gweithio gyda Connor ers peth amser erbyn hyn ac rydym wrth ein bodd bod ei ddawn wedi cael ei chydnabod gyda'r bwrsari hwn. Mae wir yn ei haeddu ac ni allwn aros i weld ble mae'n mynd ag e ac i fynd ar y daith hon gydag e."

I gael gwybod mwy am Connor Allen ac i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ei waith sydd i ddod, ewch i https://www.connorallen.co.uk/