Man with person dressed as a bird of prey.PNG 4 adults dressed as unicorns standing against a brick wall.PNG 

 

Ar ôl absenoldeb o ddwy flynedd, mae Gŵyl Sblash Mawr Casnewydd Fyw a Glan yr Afon yn dychwelyd i strydoedd y ddinas gyda bang yr haf hwn Ddydd Sadwrn 23 a Dydd Sul 24 Gorffennaf gyda rhaglen lawn dop i ddathlu hoff berfformwyr gwyliau'r gorffennol yn ogystal â rhai pethau annisgwyl newydd sbon.

Bydd yr ŵyl theatr stryd am ddim i'r teulu unwaith eto yn darparu ar gyfer pob oedran gyda theatr stryd, canu yn y stryd, perfformiadau cymunedol, gweithdai a gweithgareddau celf a chrefft, wedi'u curadu'n arbennig i ddiddanu, rhyfeddu a difyrru pobl leol ac ymwelwyr â'r ardal.

Yn dychwelyd yr haf hwn mae cyfres o berfformwyr poblogaidd o Sblash Mawr 2019 gan gynnwys Able Mabel, y mae cynulleidfaoedd efallai'n ei chofio am ei hymdrechion i ddianc allan o efynnau llaw a arweiniodd at golli ei gwisg yn lle hynny! Bydd y cwpl cartŵn Gary a Pel yn dychwelyd gyda'u Honeymoon Balloon; mae ganddynt ddau docyn i baradwys ac maent ar fin cychwyn ar eu gwyliau balŵn awyr poeth moethus cyntaf erioed. Bydd cangarŵod enfawr ar stiltiau bownsio anhygoel yn eu holau hefyd i grwydro strydoedd y ddinas wrth i Roo'd ddod â'u cymysgedd hwyliog o wrywdod y gwyllt yn Awstralia a phync slic canol dinas.

Bydd Theatr Iolo yn dychwelyd gyda'u cynhyrchiad teuluol hardd Hoof sy'n dilyn tri charw neu ewig bach sy'n gwneud darganfyddiad annisgwyl pan ddônt ar draws hen theatr gwag yn y goedwig. Mae Hoof yn sioe arbennig iawn i Lan yr Afon am bod ei hymddangosiad cyntaf yr haf diwethaf, gwta flwyddyn yn ôl, yn nodi dychweliad theatr fyw i'r lleoliad yn dilyn cyfnod hir o fod ynghau yn sgil Covid. 

Ni chaiff pobl o bob oed sy’n hoffi anifeiliaid eu siomi gan arlwy’r Big Splash eleni gan fod amrywiaeth o berfformiadau yn cynnwys 'anifeiliaid' yn y prif rolau. Yn anarchaidd,  yn wyllt ac... yn addysgol, bydd Falconry Dismay yn arddangos talentau rhyfeddol tri pherfformiwr wedi'u gwisgo fel adar ysglyfaethus mawreddog ac arbenigedd eu perchennog Bydd dau sboncyn y gwair sy’n dwlu ar y gampfa yn gwahodd cynulleidfaoedd i gymryd rhan mewn rhai digwyddiadau hurt yn Great Insect Games a chadwch eich llygad yn agored i weld Hieronymus yr Hipopotamws sy’n hanner anifail a’r hanner arall yn fecanyddol sy’n teimlo ychydig yn sâl yn Hippochondriac.

Mae Glan yr Afon yn falch iawn o fod hefyd yn arddangos ac yn dathlu gwaith amrywiaeth o sefydliadau celfyddydol eraill yng Nghymru ac hefyd yn yr ŵyl yr haf hwn.  Bydd Theatr Hijinx yn profi bod yr ungorn yn bod go iawn, ond efallai ddim mor gyfeillgar ag yr oeddem i gyd yn ei feddwl diolch i'n hanallu i gymryd yr anifail o ddifri yn Grumpy Unicorns. Bydd y pâr Flossy a Boo yn dysgu i gynulleidfaoedd How to Defeat Monsters (and Get Away With It) mewn sioe newydd addysgol a hynod ddifyr, ac mae Taking Flight Theatre Co yn barod i'ch croesawu i'r Adran Digwyddiadau Rhyfedd gan fod angen help arnynt i ddatrys The Curious Case of Aberlliw.

Yn ogystal â'r perfformiadau hyn, bydd llawer mwy yn ymddangos ar draws y ddinas mewn amrywiaeth o barthau dros y penwythnos gan gynnwys Glan yr Afon ei hun, ar hyd rhodfa'r afon i adeilad Prifysgol De Cymru, yn Sgwâr John Frost, yn Usk Plaza ac ar hyd Commercial Street.

Mae Sblash Mawr 2022 wedi'i hwyluso trwy gyllid, nawdd a chefnogaeth hael Casnewydd Fyw, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Dinas Casnewydd, Ardal gwella Busnes Newport Now, Friars Walk, Le Pub, Prifysgol De Cymru, Articulture, Sefydliad Alacrity, Loyal Free, Bws Casnewydd a Sefydliad Alacrity. 

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am bopeth sydd wedi'i gynllunio ar gyfer Sblash Mawr 2022 gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw llygad ar y cyfryngau cymdeithasol, facebook.com/bigsplashnewport a Twitter @BigSplashFest, ac ymweld â newportlive.co.uk/BigSplash.