Mae Casnewydd Fyw yn chwilio am Gynhyrchydd Creadigol dros dro llawrydd.

Bydd y Cynhyrchydd Creadigol dros dro yn gweithio gyda'r tîm yn Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon i gefnogi gyda chynhyrchu 2 ddigwyddiad allweddol yng nghalendr y lleoliad ar gyfer 2022.

Rhagwelir y byddai'r rôl yn gofyn am weithio 2 ddiwrnod yr wythnos.  Hoffem i’r ymgeiswyr allu dechrau gweithio o dan gontract o ddiwedd mis Mai neu ddechrau mis Mehefin.

Bydd y rôl yn cynnwys:

Pantomeim

  • Parhau â'r gwaith o adeiladu cast addas a thîm creadigol ar gyfer Robin Hood 2022

  • Goruchwylio drafftiau sgript a chymeradwyaethau terfynol

  • Goruchwylio comisiynu trefniadau cerddorol mewn ymgynghoriad â’r tîm creadigol

  • Parhau â'r gwaith o reoli castio, trafod gydag asiantwyr a gweithredu fel pwynt cyswllt ar gyfer asiantwyr

  • Goruchwylio'r broses o ddethol a rheoli ensemble ieuenctid

  • Sicrhau cydymffurfiaeth iechyd a diogelwch y cynhyrchiad

  • Gweithio gyda'r Swyddog Gweithredol Cynyrchiadau i oruchwylio a sicrhau bod gofynion teithio a llety yn cael eu harchebu

  • Rheoli ac adolygu'r gyllideb gynhyrchu gyda'r HoTAC

  • Goruchwylio holl agweddau a gofynion gweithredol y cynhyrchiad pantomeim blynyddol gan gynnwys amserlennu a chynllunio, rheoli'r cast a'r tîm creadigol

  • Gweithio gyda'r tîm yng Nglan yr Afon i greu pantomeim sy'n cyflawni ei dargedau creadigol, datblygiadol ac ariannol.

Gŵyl yr Haf

  • Gweithio gyda'r tîm yng Nglan yr Afon i oruchwylio'r Ŵyl Haf gan sicrhau ei bod yn cyflawni yn erbyn amcanion yr ŵyl ac yn parhau o fewn y gyllideb a ddyrannwyd.

  • Parhau â’r gwaith o nodi a churadu rhaglen gymysg o theatr stryd broffesiynol a chelf awyr agored, negodi a chontractio partneriaid creadigol ar gyfer yr wyl

  • Goruchwylio pob agwedd a gofynion gweithredol a gofynion gŵyl gelfyddydol awyr agored gyda ffocws penodol ar ddiogelwch y gynulleidfa a’r artistiaid

  • Gweithio gyda staff cynhyrchu, technegol a gweithredol Casnewydd Fyw a phartneriaid rhaglennu allanol ac asiantaethau er mwyn sicrhau y cynhelir yr ŵyl yn ddidrafferth ac ar amser

 

Dylai fod gan ymgeiswyr llwyddiant blaenorol mewn datblygu creadigol a chyflawni digwyddiadau diwylliannol proffil uchel gan gynnwys rheoli cyllidebau, yn defnyddio sgiliau cynllunio a threfnu a gweithio fel rhan o dîm.

Cyflog: £250 y dydd

I wneud cais anfonwch CV ynghyd â llythyr eglurhaol yn nodi eich sgiliau a'ch profiad ar gyfer y rôl i gemma.durham@newportlive.co.uk erbyn dydd Iau 26 Mai 2022

Am drafodaeth anffurfiol am y cyfle, ffoniwch Gemma Durham, Pennaeth Theatr, Celfyddydau a Diwylliant ar 01633 656757 neu e-bostiwch gemma.durham@newportlive.co.uk