Mae Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yn edrych ymlaen at lansio rhaglen newydd o weithgareddau yr hydref hwn sy’n berffaith ar gyfer babanod a phlantos bach i ddod iddynt gyda’u rhieni, teidiau a neiniau, gwarcheidwaid a gofalwyr.

Mae cymaint o deuluoedd newydd wedi colli eu profiadau cyntaf o fynd allan a chwrdd â babanod a theuluoedd eraill oherwydd y cyfnodau clo.  Mae Glan yr Afon yn falch o fod yn darparu'r cyfle hwn ac o roi’r profiadau cyntaf i fabanod o theatr fyw neu sinema mewn amgylchedd cyfforddus a chroesawgar.

O 10-12 Medi bydd Glan yr Afon yn croesawu Theatr Iolo i'w gofod theatr stiwdio i gyflwyno eu sioe Baby, Bird & Bee. Crëwyd y sioe hon yn benodol ar gyfer babanod 6 – 18 mis oed gan y crewyr theatr i fabanod enwog, Sarah Argent a Kevin Lewis. Nhw hefyd yw’r tîm creadigol y tu ôl i'r cynhyrchiad theatr adnabyddus a hirhoedlog ‘Baby Show’.

Mae Baby, Bird & Bee yn ddathliad o'r byd y tu allan a gwahoddir cynulleidfaoedd i eistedd gyda'u babi tra bod y garddwr newydd yn mynd o gwmpas ei bethe, yn plannu ac yn dyfrio’n chwareus yn yr ardd hardd. Gyda'i gilydd bydd teuluoedd yn darganfod golygfeydd a synau'r lleoliad, wrth i’r rhai bach synnu ar y  rhyfeddodau o'u cwmpas. Perfformir y sioe Saesneg gan Krystal S Lowe sy’n ymddangos yn rheolaidd yng Nglan yr Afon. Bydd y perfformiad yn 20–25 munud ac yna bydd 20 munud o amser 'Aros a Chwarae' ar gyfer y babanod a'u teuluoedd.

Mae pob tocyn i Baby, Bird & Bee yng Nglan yr Afon yn rhad ac am ddim i alluogi cymaint o deuluoedd â phosibl allu profi eu digwyddiad theatr byw cyntaf gyda'i gilydd.

Dywedodd Danielle Rowlands, y Swyddog Addysg a Chyfranogiad "Pan glywsom fod y sioe wych hon yn teithio, roeddem yn gwybod ei bod yn rhywbeth yr oeddem am ei chyflwyno i Gasnewydd. Mae cymaint o deuluoedd wedi bod yn ynysig dros y 18 mis diwethaf ac roeddem am allu gwahodd teuluoedd newydd i'r adeilad am y tro cyntaf erioed. Mae cysylltu â theuluoedd a'r gymuned yn ganolog i bopeth a wnawn yma ac rydym am roi profiad cyntaf cadarnhaol i'r teuluoedd hyn o'r theatr fel eu bod yn parhau i ddod yn ôl yn y dyfodol.'

Y mis hwn bydd dangosiadau sinema addas i fabanod Glan yr Afon For Crying Out Loud hefyd yn dychwelyd. Bydd y dangosiadau hyn yn cael eu cynnal ar foreau’r wythnos am 11am a byddant yn ffilm newydd ei rhyddhau, gyda’r dystysgrif U, PG neu 12A. Mae'r dangosiadau hyn yn rhai i rieni a gwarcheidwaid eu mwynhau gyda'u baban neu blentyn bach felly fe’ch cynghorwn i beidio â phoeni am grio, bod yn aflonydd neu darfu ar westeion eraill, gan y bydd pawb yn yr un cwch.

Er mwyn gwneud y dangosiadau hyn mor gyfeillgar i fabanod â phosibl, bydd Glan yr Afon yn addasu’r amodau yn y sinema; bydd y goleuo’n ysgafn, bydd lefel y sain yn is a bydd matiau meddal o flaen y sgrin ar gyfer unrhyw blant bach nad ydynt yn gyfforddus o bosibl yn aros yn eu seddi.

Mae dangosiadau For Crying Out Loud sy'n dod i fyny dros yr wythnosau nesaf yn cynnwys Nomadland (13 Medi), The Father (21 Medi) ac Another Round (27 Medi). Cadwch lygad ar wefan Casnewydd Fyw wrth i ddangosiadau newydd gael eu hychwanegu'n wythnosol.

Yn ddiweddarach eleni bydd Glan yr Afon hefyd yn ailgyflwyno ei sioe gomedi fisol Aftermirth yn ystod y dydd, y mae croeso i fabanod hyd at 18 mis eu mynychu, a bydd y ganolfan gelfyddydau yn lansio cyfres o weithdai addas i fabanod a phlant bach. Cadwch lygad ar eu sianeli cyfryngau cymdeithasol am eu manylion.

Mae tocynnau ar gyfer Baby, Bird & Bee a For Crying Out Loud ar gael nawr yma neu drwy ffonio 01633 656757.