Academi Hyfforddi Casnewydd Fyw yw rhaglen drosfwaol Casnewydd Fyw ar gyfer unrhyw unigolion sydd am ddatblygu’n bersonol ac yn broffesiynol drwy wirfoddoli a manteisio ar gyfleoedd hyfforddi. Mae'r rhaglen yn agored i bawb, o bobl ifanc, aelodau o’r gymuned, neu bobl sydd wedi ymddeol - mae’r academi hyfforddiant yn defnyddio dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i greu'r llwybr gorau ar gyfer eu datblygiad.

Mae academyddion arweinyddiaeth yn yr ysgolion uwchradd ledled Casnewydd, gan roi cyfle i bobl ifanc ddod yn rhan o'r Rhaglen Cenhadon Ifanc mewn partneriaeth â'r Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid.  Mae’r rhaglen CI yn cefnogi datblygiad y genhedlaeth nesaf o arweinwyr hyderus a chymwys. Mae'r cyfle unigryw hwn yn caniatáu cyfleoedd hyfforddi ar gyfer y CIau yn ogystal â chymorth gyda hunanhyder, hunan-barch, sgiliau hyfforddi ymarferol a sgiliau cyflogadwyedd. Bydd y CIau yn derbyn cymorth mentora ar bob cam o'u taith. Rydym yn cysylltu gydag asiantaethau allanol yn ogystal ag adrannau Casnewydd Fyw i chwilio am gyfleoedd gwaith.

Mae'r Academi Hyfforddiant hefyd yn agor ei drysau i wirfoddolwyr o fewn clybiau chwaraeon lleol, aelodau o'r gymuned ac unrhyw un sy'n dangos angerdd ac ymroddiad i ysbrydoli pobl i fod yn hapusach ac iachach.

Rydym yn cydweithio â sawl partner fel Academi Ieuenctid Casnewydd, Portal Training, Sports Leaders, Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid, Gyrfa Cymru a llawer mwy i sicrhau y gall pawb sy’n rhan o'r Academi Hyfforddiant fwynhau mynediad at amrywiaeth o hyfforddiant a phrofiad gwaith addas.