Swyddog Cymorth Tenis
Canolfan Tenis a Nofio Ranbarthol
Pentref Chwaraeon Casnewydd
Gradd 5 - SCP 21 - 25 (£20,912 - £23,528)
37 awr – Llawn amser
ynghyd â budd-daliadau
Mae Casnewydd Fyw yn ymddiriedolaeth arobryn nid er elw sy’n ymwneud â chwaraeon, hamdden a diwylliant; ac yn Elusen gofrestredig y DU sydd â hanes ardderchog o ddarparu rhaglenni a gwasanaethau arloesol i'n cymunedau a’n trigolion sy'n 'ysbrydoli pobl i fod yn hapusach ac yn iachach'.
Rydym yn awyddus i recriwtio Swyddog Cymorth Tenis â chymwysterau addas i ymuno â'n Tîm Datblygu Tenis arobryn yn y Pwll a Chanolfan Tenis Rhanbarthol.
Byddwch yn aelod allweddol o'r tîm o ran cynnal rhaglenni tenis effeithiol o ansawdd uchel. Bydd hyfforddi ar y cyrtiau yn rhan fawr o'r rôl lle mae arwain y gwaith o gyflwyno Tenis Mini, tenis i oedolion a rhaglenni tenis yr ysgol yng Nghasnewydd. Bydd hefyd yn ofynnol i chi gefnogi'r gwaith o weinyddu a chynllunio rhaglenni lle bo angen.
Byddwch yn meddu ar gymhwyster Cymdeithas Tenis Lawnt Lefel 3 o leiaf, ynghyd â'r profiad perthnasol o hyfforddi, gan ddangos y gallu i ddarparu gwersi tenis o ansawdd uchel i bobl ifanc ac oedolion ar draws ystod eang o alluoedd.
Mae’r swydd wedi’i heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr (1974) ac mae’n amodol ar wiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) llwyddiannus.
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â Chasnewydd Fyw ar 01633 656757 a gofyn am gael siarad â Luke Difranco, Rheolwr Tenis, neu e-bostiwch luke.difranco@newportlive.co.uk
Proses Ymgeisio
Gallwch lawrlwytho ffurflen gais a disgrifiad swydd o wefan Casnewydd FYW www.casnewyddfyw.co.uk neu fel arall, maent ar gael trwy wneud cais mewn e-bost i jobs@newportlive.co.uk
Dychwelwch y ffurflenni cais cyflawn i jobs@newportlive.co.uk
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Mawrth 13 Ebrill 2020
Cynhelir cyfweliadau dros MS Teams: Dydd Mawrth 20 Ebrill 2021