ARWEINYDD SESIYNAU OLWYNION I BAWB CASNEWYDD 

Gradd 3 – PCG 14 – 17 £17,193 - £18,401
Gwaith Achlysurol – Dydd Mercher a Dydd Sadwrn ar gael.

 

Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer arweinwyr sesiynau Olwynion i Bawb Casnewydd, i arwain y gwaith o gyflwyno ein sesiynau beicio cynhwysol newydd. Mae Olwynion i Bawb Casnewydd yn brosiect newydd cyffrous ym Mharc Tredegar sy'n cynnig cyfleoedd i bobl anabl gymryd rhan mewn sesiynau beicio diogel a hwyliog wedi'u haddasu.


Bydd y cyfrifoldebau'n cynnwys cefnogi beicwyr gydag ymsefydlu cychwynnol, gwneud argymhelliad o ran priodoldeb beic penodol a helpu beicwyr i lywio'r llwybr yn y parc yn ddiogel er mwyn sicrhau gweithgaredd hwyliog a chynhwysol i bawb. Fel isafswm dylai fod gan ymgeiswyr wybodaeth neu ymwybyddiaeth o brosesau diogelu ynghyd â chymhwyster Cymorth Cyntaf cydnabyddedig neu'r gallu i weithio tuag at gymhwyster yn y dyfodol agos.


I ddechrau, bydd sesiynau Olwynion i Bawb Casnewydd ar gael 2 ddiwrnod yr wythnos, ar ddydd Mercher a dydd Sadwrn rhwng 9.30am a 3.30pm; er y gallai oriau newid wrth i'r prosiect ddatblygu. Mae hyblygrwydd yn allweddol i’r cyfle hwn i gefnogi’r fenter newydd a chyffrous hon. Bydd gofyn i chi fynychu sesiynau hyfforddiant gorfodol, a hyrwyddo beicio cynhwysol, er mwyn sicrhau llwyddiant y prosiect newydd hwn.


Darperir hyfforddiant arwain Olwynion i Bawb Casnewydd.


I gael trafodaeth anffurfiol am y swydd cysylltwch â Steve McGrath, Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Byw Casnewydd Fyw drwy Stephen.McGrath@newportlive.co.uk.


Y Broses Ymgeisio
Gallwch lawrlwytho ffurflen gais a disgrifiad swydd isod neu fel arall, maent ar gael trwy wneud cais mewn e-bost i jobs@newportlive.co.uk
Dychwelwch y ffurflenni cais wedi ei cwblhau i jobs@newportlive.co.uk

 

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Sul 6 Mehefin 2021
Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal yn ystod yr wythnos yn cychwyn: Dydd Llun 14 Mehefin 2021  

 

Job Description             Application Form