HYFFORDDWR TENIS LEFEL 2

Canolfan Tennis a Nofio Ranbarthol Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd Gradd 3 - PCG 15 (14-17) (£17,193 - £18,401) pro rata

Gwaith Achlysurol 

Mae Casnewydd Fyw yn ymddiriedolaeth arobryn nid er elw sy’n ymwneud â chwaraeon, hamdden a diwylliant; ac yn Elusen gofrestredig y DU sydd â hanes ardderchog o ddarparu rhaglenni a gwasanaethau arloesol i'n cymunedau a’n trigolion sy'n 'ysbrydoli pobl i fod yn hapusach ac yn iachach'. 


Rydym yn dymuno recriwtio Hyfforddwr Tenis â chymwysterau Lefel 2 addas i ymuno â'n Tîm Datblygu Tenis arobryn yn y Ganolfan Tennis a Nofio Ranbarthol.


Bydd y rôl yn cynnwys hyfforddi chwaraewyr Iau ac Oedolion o bob oed a phrofiad o fewn Rhaglen Tenis Canolfan Tenis Casnewydd. Bydd cyflwyno Rhaglen Ieuenctid y Gymdeithas Tenis Lawnt a Mentrau eraill y Gymdeithas Tenis Lawnt eraill fel Youth Start a Tennis Xpress hefyd yn rhan bwysig o’r rôl ochr yn ochr â'n gwersi Grŵp presennol.


Byddwch yn meddu ar gymhwyster Cymdeithas Tenis Lawnt Lefel 3 o leiaf, ynghyd â phrofiad perthnasol yn hyfforddi, gan ddangos y gallu i ddarparu gwersi tenis o ansawdd uchel i bobl ifanc ac oedolion ag ystod eang o alluoedd.


Mae’r swydd wedi’i heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr (1974) ac mae’n amodol ar wiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) llwyddiannus.


I gael trafodaeth anffurfiol am y swydd cysylltwch ag ymholiadau Casnewydd Fyw ar 01633 656757 a gofynnwch am gael siarad â Luke Difranco, Rheolwr Tennis, neu e-bostiwch luke.difranco@newportlive.co.uk.

 

Y Broses Ymgeisio
 Gallwch lawrlwytho ffurflen gais a disgrifiad swydd isod neu fel arall, maent ar gael trwy wneud cais mewn e-bost i jobs@newportlive.co.uk
Dychwelwch y ffurflenni cais wedi ei cwblhau i jobs@newportlive.co.uk

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Sul 11 Gorffennaf 2021

Cynhelir cyfweliadau ar: Ddydd Llun 12 Gorffennaf

 

Job Description        Application Form