Dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yng Nglan Yr Afon!
Bob mis Mawrth rydyn ni’n dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yng Nglan yr Afon gyda pherfformiadau campus a sesiynau blasu am ddim, oll â ffocws ar fenywod. Cynhelir Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2026 ar 7 Mawrth 2026.
Ar Ddydd Sadwrn 7 Mawrth rhwng 10am a 4pm byddwn yn cynnal ein digwyddiad blynyddol Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Drwy gydol y dydd bydd perfformiadau gan gerddorion gwych, grwpiau cymunedol a thrafodaethau panel gan fenywod lleol ysbrydoledig. Bydd lluniaeth a bwyd blasus ar gael i'w fwynhau wrth gwrdd a sgwrsio â phobl o'r un anian.
Bydd cyfleoedd hefyd i blant ac oedolion grefftio a chreu, yn ogystal ag amrywiaeth o weithdai creadigol, mynegiannol i gymryd rhan ynddyn nhw.
Mae croeso i westeion aros drwy'r dydd a mwynhau amrywiaeth o ddigwyddiadau neu ddod a mynd ar eu hamdden eu hunain. Mae'r holl ddigwyddiadau, a gynhelir rhwng 10am a 4pm am ddim, ac nid oes angen cadw lle!