Facebook Banner.jpg

Mae gŵyl gelfyddydol awyr agored am ddim fwyaf Cymru, 'Y Sblash Mawr', yn dychwelyd yr haf hwn!

Paratowch ar gyfer gŵyl gelfyddydol awyr agored am ddim fwyaf Cymru, sy’n dychwelyd i Gasnewydd ddydd Sadwrn 19 a dydd Sul 20 Gorffennaf 2025!

Mae Glan yr Afon yn cyflwyno’r ‘Sblash Mawr’, gŵyl flynyddol sy’n denu miloedd i’r ddinas, sy’n cynnwys cerddoriaeth fyw, theatr stryd, perfformiadau dawns, gweithdai, gweithgareddau a chrefft i'r teulu cyfan.

Gyda’r cyfan yn rhad ac am ddim, y digwyddiad deuddydd yw’r profiad perffaith i’r teulu ac i bob oed. Wedi'i ddisgrifio fel "Covent Garden Casnewydd", bydd strydoedd Casnewydd yn troi'n lwyfan awyr agored enfawr. Cadwch y dyddiad yn rhydd ac ymunwch â ni yn yr ŵyl eleni. I gymryd rhan yn Sblash Mawr 2025, cysylltwch â artsdevelopment@newportlive.co.uk.

Galwad i’r Gymuned

Rydym yn cynnig cyfle gwych i berfformio yn y Sblash Mawr 2025, ac rydym yn chwilio am grwpiau cymunedol ac artistiaid a hoffai gymryd rhan ar y Llwyfan Dathlu, Llwyfan y Doc, ac Ardal Usk Plaza.

Rydym yn galw ar gorau, grwpiau dawns, cerddorion, beirdd, storïwyr, perfformwyr syrcas, digrifwyr ac unrhyw un arall lleol sydd am berfformio a dangos eu creadigrwydd i'r ddinas i gysylltu â ni, gan y byddem wrth ein bodd yn eich arddangos chi neu'ch sefydliad.

Mae Sblash Mawr wedi ymrwymo i gynrychioli grŵp mor amrywiol â phosibl o gymunedau. Yn benodol, rydym yn annog ceisiadau gan bobl o bob rhywedd ac o bob oed, perfformwyr Cymraeg eu hiaith, pobl ag anableddau, a chynrychiolwyr o gymunedau LHDTCRhA+ ac o’r mwyafrif byd-eang.

Bydd y llwyfannau'n fyw – dydd Sadwrn 19 Gorffennaf 11am-5pm a dydd Sul 20 Gorffennaf 12pm-16:30pm. Rhaid i'ch act gyfan fod yn addas i deuluoedd a phobl o bob oed.
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais: Dydd Sul 1 Mehefin 2025.

Dyma beth fyddwn yn ei ddarparu ar gyfer pob parth:

Celebrate Stage.png

Usk Plaza.png

The Dock.png

Bydd yn ofynnol i bob perfformiwr sicrhau:

· Yswiriant dilys a digonol

· Asesiad risg ar gyfer eich perfformiad neu grŵp.

· Gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) dilys os ydych chi'n gweithio gyda phobl ifanc neu bobl sy’n agored i niwed.

· Os bydd plant yn perfformio, bydd angen y drwydded briodol arnoch gan eich awdurdod lleol (BOPA) – mae rhagor o wybodaeth ar gael yma, a sylwch fod angen o leiaf 21 diwrnod i brosesu hyn: Children's performance licensing | Newport City Council 

· Rhaid i unrhyw offer trydanol fod wedi’i brofi o fewn y flwyddyn ddiwethaf ac yn arddangos y labelu priodol.  

NODDWYR A PHARTNERIAID

Diolch yn fawr iawn i'n cyllidwyr, noddwyr a phartneriaid am helpu i wneud Sblash Mawr yn bosibl: Eisiau cymryd rhan a dod yn noddwr i Sblash Mawr Edrychwch ar ein pecyn noddi yma!

Mae'r partneriaid blaenorol yn cynnwys:

Big Splash Sponsors  (2).png

Newyddion a Digwyddiadau

06/05/2025

Richard Elis yn dychwelyd ar gyfer ei Bantomeim rhif 14 yng Nglan yr Afon gyda Rapunzel

Darllen mwy
25/04/2025

20 Mlynedd o Hud: Ffefryn y Panto, Gareth Tempest, yn dychwelyd gyda 'Rapunzel' yn Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon

Darllen mwy
19/03/2025

Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yn ymuno â Llwybr Cerdd Casnewydd am benwythnos o gerddoriaeth fyw a gweithdai am ddim

Darllen mwy