Mae Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon wedi llwyddo i gyflawni ei phrosiect Panto i Bawb, menter sydd wedi'i chynllunio i gael gwared ar rwystrau ariannol a sicrhau bod mwy o bobl ledled Casnewydd yn gallu profi llawenydd pantomeim.  

Drwy'r prosiect, dosbarthwyd 700 o docynnau pantomeim am ddim i unigolion a theuluoedd a fyddai fel arall yn methu â mynychu pantomeim Nadolig Casnewydd.  Trwy fynd i'r afael â phwysau costau byw, yn enwedig yn ystod y Nadolig, galluogodd y fenter fynediad ehangach at theatr fyw, a helpu i sicrhau bod pantomeim yn parhau i fod yn brofiad diwylliannol a rennir i'r gymuned gyfan.  

Gweithiodd Glan yr Afon mewn partneriaeth agos ag amrywiaeth o elusennau lleol a sefydliadau cymunedol, gan gynnwys banciau bwyd lleol, KidCare4U, Autism's Hidden Voices, Age Alive, Cynefin Pamoja, Toys For Families, Sparkle / Serennu, Newport People First, ac eraill. Mae'r sefydliadau hyn, y gellir ymddiried ynddynt, wedi helpu i gysylltu unigolion a theuluoedd sy'n wynebu rhwystrau ariannol, cymdeithasol neu hygyrchedd â thocynnau am ddim.

518rapenzel26112025Kirstenmcternan (1).jpg

Tynnodd adborth gan bartneriaid sylw at effaith ystyrlon y prosiect. Dywedodd cynrychiolydd o And Breathe, sy'n cefnogi gofalwyr rhieni a phlant ag anghenion ychwanegol:    

"Rydym yn cefnogi gofalwyr rhieni a phlant ag anghenion ychwanegol. Rydym ym Metws, ardal economaidd ddifreintiedig, ac nid yw'r rhan fwyaf o rieni rydyn ni'n gweithio gyda nhw yn gallu gweithio oherwydd anghenion eu plant. Bydd hyn yn dod â chymaint o bleser iddyn nhw."  

Rhannodd Cynefin Pamoja, sy'n gweithio gyda phobl ifanc ledled Casnewydd, eu gwerthfawrogiad o'r fenter hefyd, gan ychwanegu: "O waelod ein calonnau, diolch yn fawr am wneud hyn yn bosib. Bydd eich caredigrwydd a'ch cefnogaeth yn golygu llawer iawn i'r bobl ifanc sy'n cymryd rhan, ac rydym yn wirioneddol ddiolchgar."  

Mae Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yn lleoliad nid er elw, gyda'i rhaglen ddiwylliannol, gan gynnwys y pantomeim blynyddol, wedi'i chefnogi drwy gyllid craidd a grant Casnewydd Fyw. 

"Mae Panto i Bawb yn dangos beth y gellir ei gyflawni pan fydd diwylliant yn cael ei roi wrth galon y gymuned," meddai Sharon Casey, Pennaeth Theatr, Celfyddydau a Diwylliant Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon. "Diolch i'n partneriaid a'n tîm ymroddedig, roedd cannoedd o bobl yn gallu rhannu chwerthin, llawenydd a hud pantomeim adeg y Nadolig. Mae sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i gael mynediad at theatr fyw yn parhau i fod yn flaenoriaeth graidd i ni." Hoffai Glan yr Afon ddiolch i Gyngor Dinas Casnewydd a Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU am eu cefnogaeth i'r ymgyrch Panto i Bawb, a chwaraeodd ran hanfodol wrth wneud y prosiect cynhwysol hwn yn bosib, a helpu i sicrhau bod hud pantomeim yn cyrraedd cymunedau ledled y ddinas.