Gall cynulleidfaoedd yn Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon edrych ymlaen at leoliad mwy cyfforddus, hygyrch a hyblyg yn adnewyddu diolch i grant o £400,000 gan Gronfa Buddsoddi Cyfalaf y Celfyddydau.

Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i wneud gwelliannau i'r prif ofod theatr, gan gynnwys:

· seddi newydd

· adnewyddu'r llawr

· mynediad ramp hygyrch

· mwy o le i gadeiriau olwyn.

Left to right: Dafydd Rhys, Chief Executive, Arts Council of Wales, Cllr Emma Stowell Corten, Cabinet Member for Culture, Newport City Council, Welsh Government Minister for Culture and Sport Heledd Fychan, Richie Turner Newport Live board member
Left to right: Dafydd Rhys, Chief Executive, Arts Council of Wales, Cllr Emma Stowell Corten, Cabinet Member for Culture, Newport City Council, Welsh Government Minister for Culture and Sport Heledd Fychan, Richie Turner Newport Live board member

Bydd y grant hefyd yn ariannu bloc seddi tynnu'n ôl newydd yn y theatr stiwdio, yn gwella ei hyblygrwydd a'i gyfforddusrwydd ar gyfer perfformiadau, dangosiadau sinema a digwyddiadau cymunedol.

Mae Cronfa Buddsoddi Cyfalaf y Celfyddydau yn cael ei rheoli gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru. Mae'n cefnogi prosiectau uchelgeisiau a fydd yn helpu i ddiogelu asedau diwylliannol gwerthfawr, gwella hygyrchedd, a chreu cyfleoedd newydd i artistiaid, cynulleidfaoedd a chymunedau.

Bydd Cyngor Dinas Casnewydd, sy'n berchen ar y lleoliad, yn arwain y prosiect adnewyddu mewn partneriaeth â gweithredwr y lleoliad, Casnewydd Fyw.

"Bydd y buddsoddiad yn diogelu lleoliad diwylliannol allweddol, yn ei wneud yn brofiad mwy cyfforddus a hygyrch i gynulleidfaoedd ac yn lleihau pwysau cynnal a chadw yn y dyfodol," meddai'r Cynghorydd Emma Corten, aelod cabinet dros ddiwylliant a chyfathrebu.

"Mae ehangu mynediad at ddiwylliant, a chryfhau ein hasedau diwylliannol, yn flaenoriaethau allweddol strategaeth ddiwylliant Casnewydd 2025-2035, a bydd y gwaith hyn yn helpu Glan yr Afon i barhau i ymgysylltu â channoedd o filoedd o aelodau'r gynulleidfa bob blwyddyn.

"Bydd y gwaith hefyd yn galluogi capasiti ychwanegol yn y brif theatr, ac yn cefnogi cynhyrchu incwm ychwanegol, tra'n cadw defnydd hyblyg y theatr stiwdio ar gyfer sinema, digwyddiadau cymunedol, gwyliau, cynadleddau a gweithdai."

Dywedodd Sharon Casey, pennaeth theatr, celfyddydau a diwylliant Theatr Glan yr Afon, "mae Theatr Glan yr Afon wrth wraidd bywyd diwylliannol Casnewydd, ac mae'r buddsoddiad hwn yn hanfodol i sicrhau ei dyfodol.

"Gyda'n seddi awditoriwm bellach yn fwy na 23 oed, mae adborth y gynulleidfa wedi tynnu sylw at bwysigrwydd gwella cyfforddusrwydd a gwella profiad ymwelwyr.

"Bydd y buddsoddiad hwn yn ein galluogi i greu lleoliad mwy cyfforddus, hygyrch a chroesawgar, gan agor y drysau i hyd yn oed mwy o bobl brofi popeth sydd gan Glan yr Afon i'w gynnig.

"Rydym yn wirioneddol gyffrous am y bennod nesaf hon a'r gwahaniaeth parhaol y bydd yn ei wneud i'n cynulleidfaoedd, artistiaid a chymuned greadigol Casnewydd."