Tua diwedd 2025, cydlynodd Casnewydd Fyw apêl codi arian Cwtsh Nadolig.  Bu Casnewydd Fyw, ynghyd â Gwasanaethau Plant Cyngor Dinas Casnewydd, busnesau lleol, a grŵp anhygoel o wirfoddolwyr yn cydweithio i gefnogi dros 300 o’r plant, pobl ifanc a theuluoedd mwyaf agored i niwed yng Nghasnewydd dros gyfnod y Nadolig.

Diolch i'r ymdrech gymunedol anhygoel, mae dros £5,192 wedi'i godi a darparwyd cannoedd o anrhegion ac eitemau hanfodol i’r plant, pobl ifanc a theuluoedd oedd mwyaf eu hangen adeg y Nadolig.

Dywedodd Karl Reed, Pennaeth Chwaraeon Cymunedol a Lles, "Hoffem ddiolch yn fawr iawn i bawb a gefnogodd neu a gyfrannodd at Apêl Cwtsh Nadolig Casnewydd eleni. Mae'r apêl hon wir yn dod â phobl at ei gilydd ac yn helpu i ledaenu llawenydd a chynhesrwydd i'r rhai sydd eu hangen fwyaf!"

Ariannodd yr apêl hefyd barti Nadolig hudolus yn y Celtic Manor, i blant a theuluoedd, gyda chymorth y Gwasanaethau Plant, gyda Siôn Corn, anrhegion, gemau, disgo, bwyd a diod a llawer o hwyl Nadoligaidd. Noson anhygoel gyda llwyth o blant a theuluoedd wrth eu boddau.

Dywedodd y Cynghorydd Laura Lacey, Aelod Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros Wasanaethau Cymdeithasol, "Mae wedi bod yn anhygoel gweld cynifer o bobl hyfryd a busnesau lleol o bob rhan o gymuned Casnewydd, yn cyfrannu at achos mor deilwng.  Diolch o galon i bawb fu ynghlwm wrth drefnu’r digwyddiad, neu lapio a dosbarthu pecynnau ac anrhegion, ac i bawb sydd wedi gallu cyfrannu eleni, ac wedi helpu'r cynllun codi arian hwn!"

Cysylltwch â Karl Reed, Pennaeth Chwaraeon Cymunedol a Lles drwy karl.reed@casnewydd.co.uk os hoffech gyfrannu yn y dyfodol neu weithio gyda Chasnewydd Fyw ar y math hwn o brosiect neu os oes gennych syniadau a chyfleoedd codi arian eraill.

 

Newport Live’s Christmas Cwtch appeal.png