Bydd plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn gallu mwynhau disgo cynhwysol am ddim yng Nglan yr Afon ddydd Iau 14 Awst ar ôl cael cyllid gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent.
Mae'r cyllid wedi galluogi Glan yr Afon i gyflwyno rhaglen o weithgareddau haf hygyrch sydd wedi'u dylunio i gefnogi plant a phobl ifanc sy'n gallu wynebu rhwystrau i gymryd rhan mewn digwyddiadau celfyddydol a diwylliannol, yn enwedig y rhai ag anableddau, Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r rhai o deuluoedd incwm isel.
Fel rhan o'r rhaglen, bydd dau Ddisgo Haf wedi'u dylunio'n arbennig yn darparu amgylchedd croesawgar a chefnogol lle mae plant a phobl ifanc yn gallu cymdeithasu, dawnsio, cymryd rhan mewn gemau, magu hyder a chael hwyl mewn gofod wedi'i deilwra i'w hanghenion.
Bydd y disgos yn cynnwys cerddoriaeth, swigod, symudiad, chwarae creadigol a phrofiadau synhwyraidd, gyda'r cyfranogwyr yn cael eu hannog i gymryd rhan yn eu ffordd eu hunain. Bydd lle tawelach, mwy llonydd hefyd ar gael i'r rhai a fyddai'n elwa o gymryd amser i ffwrdd o'r prif weithgaredd.
Mae'r sesiynau wedi'u datblygu mewn ymateb i adborth gan deuluoedd lleol, a dynnodd sylw at bwysigrwydd gweithgareddau pwrpasol i blant a phobl ifanc ag ADY ac anableddau. Er bod llawer o weithgareddau prif ffrwd yn gynhwysol, dywedodd teuluoedd fod sesiynau pwrpasol yn helpu plant i fagu hyder ac yn galluogi rhieni a gofalwyr i deimlo'n fwy cyfforddus wrth achub ar gyfleoedd diwylliannol.
Dywedodd Sally-Anne Evans, Uwch Gydlynydd Datblygu Creadigol yn Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon: "Rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, sydd wedi ein galluogi i ddarparu'r sesiynau rhad ac am ddim hyn i deuluoedd lleol. Rydym yn gwybod bod galw mawr am weithgareddau sydd wedi'u dylunio'n benodol ar gyfer plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Mae'r disgos hyn yn creu cyfleoedd i fagu hyder, gwneud ffrindiau a mwynhau profiadau creadigol mewn gofod lle mae plant a theuluoedd yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu, eu deall a'u cefnogi."
Bydd y disgos am ddim yn cael eu cynnal yng Nglan yr Afon ddydd Iau 14 Awst, gyda dwy sesiwn benodol i oedran:
· 2.30pm i 3.30pm ar gyfer plant 5-7 oed
· 4pm ar gyfer plant 7+ oed
Mae tocynnau am ddim ond mae’n hanfodol cadw lle i newportlive.co.uk/riverfront