Llwyfan i artistiaid rannu eu syniadau newydd radical, annodweddiadol a blaengar yw Cultivate. Noson berfformio 'gwaith ar y gweill' yw hi sy'n galluogi'r gynulleidfa i gyfarfod artistiaid wrth iddyn nhw rannu eu gwaith newydd.
Mae Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon wedi cael yr anrhydedd o weithio gyda llawer o artistiaid gwych sydd wedi gallu defnyddio'r platfform fel llwybr i'r diwydiant, i hyrwyddo eu gwaith ac i adeiladu eu gyrfa.
Trwy Cultivate, mae Glan yr Afon wedi ffurfio partneriaethau gydag artistiaid cyswllt sy'n gweithio ar y cyd i hyrwyddo'r celfyddydau a diwylliant yn ninas Casnewydd ac yn annog mwy o artistiaid i fanteisio ar y platfform a'r cyfleoedd y mae Glan yr Afon yn gallu eu cynnig.
Ddydd Iau 29 Medi mae Cultivate yn ôl yn y theatr gydag artistiaid newydd yn arddangos eu darnau gwaith. P'un a ydych chi awydd gwylio perfformiad sy'n ymdrin â phynciau blaengar neu os hoffech chi gael cyfle i gwrdd ag artistiaid lleol a bod yn rhan o'r gymuned, Cultivate yw’r cyfle perffaith.
Archebwch Nawr: Newport Live | Events
