Mae arddangosfa newydd sy’n agor yn Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon y penwythnos hwn yn cynnwys straeon am sut y gwnaeth Cenhedlaeth Windrush Cymru ymgartrefu yn y wlad.

Bydd Windrush Cymru – Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes yn Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon rhwng 11 Mawrth a 24 Mawrth. Mae'r arddangosfa eisoes wedi ymweld â nifer o amgueddfeydd cenedlaethol Cymru a bydd yn parhau i deithio ledled y wlad wrth i ni edrych ymlaen at ddathlu 75 mlwyddiant Windrush ym mis Mehefin.

Ym 1948, cyrhaeddodd yr Empire Windrush yn Nociau Tilbury yn Essex yn cario dros 1,000 o deithwyr o Ynysoedd y Caribî. Fe adawon nhw eu ffrindiau a'u teuluoedd ar ôl mewn ymateb i alwad Prydain am weithwyr wedi'r rhyfel. Dros y 40 mlynedd nesaf, dilynodd miloedd yn eu hôl traed, gyda llawer yn gwneud Cymru'n gartref newydd iddynt.

Bu hanes cenhedlaeth Windrush Cymru yn ffocws ar gyfer prosiect hanes llafar yn ddiweddar, a ddarparwyd gan Race Council Cymru ac a ariannwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Yn ystod y prosiect, rhannodd aelodau o Genhedlaeth Windrush Cymru, o bob cwr o'r wlad, eu straeon am fudo a'u hatgofion o greu bywyd newydd yng Nghymru.

Mae'r arddangosfa hon yn cynnwys straeon dros 40 aelod o Genhedlaeth Windrush Cymru, wedi eu hadrodd yn eu geiriau eu hunain. Mae'r arddangosfa’n gyfle i ymwelwyr ddysgu am eu teithiau i Gymru, a'r heriau a wynebent wrth adeiladu bywyd newydd mewn gwlad ymhell o'u cynefin – dod o hyd i waith ac agweddau pobl tuag atynt.

Mae'r hanesion yn dangos sut mae Cenhedlaeth Windrush Cymru, a'u disgynyddion, wedi gwneud eu marc ym mhob agwedd ar fywyd Cymru: drwy'r swyddi a gawsant, y gyrfaoedd yr adeiladasant, y plant a fagwyd ganddynt, a'r cyfraniadau a wnaethant i'n cymunedau a'n diwylliant. 

Cyflwynir Windrush Cymru – Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes gan Race Council Cymru mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru, Casgliad y Werin Cymru, Windrush Cymru Elders, a Hanes Pobl Dduon Cymru 365, gyda chefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a Choleg Gŵyr Abertawe.

Dywedodd yr Athro Uzo Iwobi, CBE, sylfaenydd Race Council Cymru ac un o sylfaenwyr y prosiect Windrush Cymru – Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes: "Rwy'n falch o fod wedi cefnogi'r Henuriaid am flynyddoedd lawer, gan glywed eu herfyniadau i'w straeon gael eu cofnodi er ffyniant ac i barhau â'u hetifeddiaeth i'w plant a'u hwyrion. Rwy'n falch iawn bod y prosiect a'r arddangosfa hon wedi dwyn ffrwyth – mae'n hynod o bwysig gweld y straeon hyn yn cael eu trosglwyddo i'r genhedlaeth nesaf."

Sally-Anne Evans, Swyddog Datblygu'r Celfyddydau ar gyfer Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon: ''Rydym yn falch iawn o allu cynnal yr arddangosfa hon ac i’w lansiad fod yn rhan o ddathliadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod Glan yr Afon 2023.

Mae'n arddangosfa mor arwyddocaol i'n cymunedau yng Nghasnewydd, gan grwpiau fel Age Alive, Coffee and Laughs, Caribbean Heritage Cymru yn ogystal ag unigolion sy'n rhannu eu straeon personol am sut daeth Casnewydd yn gartref iddynt.  Diolch i Race Council Cymru am ddewis arddangos gyda ni. Bydd ein digwyddiad DRhM yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn 11 Mawrth rhwng 10am a 4pm a bydd lansiad yr arddangosfa yn dechrau am 3 pm.''

Dywedodd Vernesta Cyril OBE: "O'r diwedd mae cymdeithas wedi cydnabod y Genhedlaeth Windrush, fel y gall ein straeon gael eu hadrodd am genedlaethau i ddod".

Ychwanegodd Mrs Roma Taylor, Sylfaenydd a Chadeirydd Windrush Cymru Elders:                                                "Rydw i mor falch o'r arddangosfa hon, mae'n foment bwysig i bob un ohonom. Ein straeon ni ydyn nhw, ac os na rannwn ni nhw, fydd neb yn eu gwybod. Mae'r Windrush yn bwnc poenus ac emosiynol iawn ond mae'n rhaid i'n straeon gael eu hadrodd. Mae'n bwysig i ni, ein plant a'n hwyrion ac wyresau ac i ysgolion. Mae'n rhaid i bawb wybod ein bod ni wedi bod trwy lawer.  Mae Duw wedi ein helpu i oroesi. Tiger Bay oedd y lle gorau i fyw, fe ddes i draw yn '59. Roedd pawb yn nabod pawb, pawb yn gofalu am bawb a doedd gennych chi ddim problemau."

Dywedodd Sioned Hughes, Pennaeth Hanes Cyhoeddus ac Archaeoleg Amgueddfa Cymru: "Mae Cenhedlaeth Windrush a'u teuluoedd wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy a pharhaol i Gymru, ac rydym yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Race Council Cymru i adrodd y straeon pwysig hyn.

"Bydd yr hanesion llafar a gofnodir gan brosiect Windrush Cymru yn cael eu harchifo yn Sain Ffagan fel cofnod parhaol o brofiadau byw’r Genhedlaeth Windrush yng Nghymru. Rydym yn hynod ddiolchgar i'r Windrush Elders am rannu eu profiadau byw gyda ni ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Race Council Cymru sy’n arwain Hanes Pobl Dduon Cymru, sy'n ymgysylltu, yn addysgu ac yn grymuso unigolion, grwpiau cymunedol a chymunedau ledled Cymru i gydnabod y cyfraniadau y mae'r Alltudiaeth Affricanaidd wedi'u gwneud at hanes datblygiad economaidd a diwylliannol Cymru. Mae hefyd yn caniatáu i'r gymuned ehangach gymryd rhan, dysgu a dathlu gyda'i gilydd i hybu dealltwriaeth a rhannu ein hanes byd-eang.

Vernesta-OBE windrush Vernesta-Cyril Windrush