Mae gan dîm Datblygu'r Celfyddydau Casnewydd Fyw gyfle ar gyfer 5 Ymarferydd Celfyddydau Cymunedol Creadigol o unrhyw arbenigedd.  Hoffem i'r alwad hon fod mor agored â phosibl er mwyn rhoi cyfle i ymarferwyr celfyddydol ddatblygu syniad yr hoffent ei ddatblygu. 

Mae tîm Datblygu’r Celfyddydau Casnewydd Fyw wedi derbyn grant yn ddiweddar drwy’r Gronfa Gaeaf Llawn Lles (a Ariennir gan Gynulliad Cymru) sy'n ein galluogi i gynnig 5 cyfle o hyd at £2,500 yr un.   

Er mwyn gwneud cais, rhaid i chi naill ai fod o dan 25 oed neu fod yn gweithio gyda phobl ifanc o dan 25 oed. 

Dylai eich prosiect geisio cefnogi lles plant a phobl ifanc neu chi fel person o dan 25 oed

Gallwch wneud cais i ddatblygu eich ymarfer eich hun a/neu weithio mewn lleoliad cymunedol. 

Byddem hefyd yn croesawu prosiectau sy'n digwydd mewn lleoliadau cymunedol, Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon ei hun, neu brosiectau sy’n digwydd yn rhithwir.    

Nid yw'r prosiectau hyn yn canolbwyntio ar gynnyrch terfynol (e.e. arddangosfa / perfformiad) ond gall ymarferwyr ddefnyddio cyfleusterau Glan yr Afon os yw hyn yn teimlo'n briodol i'r prosiect. 

Mae hon yn alwad cwbl agored.  Rydym yn cydnabod y cyfnod heriol yr ydym i gyd wedi ei gael yn ystod y 18 mis diwethaf a theimlwn fod angen caniatáu rhywfaint o le ar gyfer creadigrwydd a datblygiad.  

Gobeithiwn y bydd hyn yn rhoi rhywfaint o ryddid i chi fel ymarferwyr archwilio eich ymarfer a'ch meddyliau eich hun. 

Os ydych chi'n gweithio mewn lleoliad cymunedol bydd eich prosiect yn rhoi cyfle mawr ei angen i ail-ymgysylltu â chreadigrwydd a chymuned. 

 

Manylion y Cais

Anfonwch gynnig byr (Dim mwy na 2 ochr A4), ynghyd â chopi o'ch CV ac unrhyw ddelweddau (os yw'n berthnasol i'ch cais).

Os ydych yn gweithio gyda phobl ifanc, mae'n bwysig bod gennych GDG cyfredol. 

Rhaid cwblhau pob prosiect erbyn diwedd mis Mawrth 2022. 

I wneud cais neu i drafod unrhyw beth cyn gwneud cais, cysylltwch â sally-anne.evans@newportlive.co.uk 

 

Y dyddiad cau ar gyfer Ceisiadau yw Dydd Llun 24 Ionawr - rydym yn cadw'r hawl i drafod prosiectau gydag ymgeiswyr cyn y dyddiad cau hwn.