Is-grŵp Celfyddydau a Diwylliant Casnewydd Fyw
Gwahodd Datganiadau o Ddiddordeb

Mae Casnewydd Fyw yn gwahodd Datganiadau o Ddiddordeb gan unigolion i wasanaethu ar Is-grŵp Celfyddydau a Diwylliant newydd arfaethedig.

Diben y grŵp fydd:

  • Cynghori'r Bwrdd a'r Prif Weithredwr i greu a llunio amcanion a chynlluniau strategol Theatr, Celfyddydau a Diwylliant Casnewydd Fyw.
  • Cynnig mewnbwn i gyfeiriad Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yn y dyfodol.
  • Cynghori Casnewydd Fyw ar ei gyfraniad at gyfeiriad diwylliannol Casnewydd, Gwent a Chymru.
  • Monitro, adolygu a gwerthuso'r effaith ddiwylliannol i wella’n gyson a manteisio i’r eithaf ar ddatblygiad parhaus Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon.

Ynglŷn â’r swydd:

  • Cynhelir cyfarfodydd bob yn ail fis, 6 gwaith y flwyddyn.
  • Nid yw'r rôl yn dwyn unrhyw daliadau cydnabyddiaeth yn gyfnewid am yr ymrwymiad.
  • Bydd aelodau'r is-grŵp yn rolau cynghori ac nid ydynt yn rhan o fwrdd neu Dîm Gweithredol Casnewydd Fyw.

Pwy rydym yn chwilio amdano/amdani:

Edrychwn ymlaen at dderbyn Datganiadau o Ddiddordeb gan gydweithwyr ar draws amrywiaeth o gefndiroedd a disgyblaethau sydd â gwahanol lefelau o brofiad. Mae hyn yn cynnwys y celfyddydau, treftadaeth a diwylliant ledled Casnewydd, Cymru a’r DU.

Meini prawf dethol:

  • Rydym yn ceisio gwahodd hyd at 10 o bobl i ffurfio rhan o'r is-grŵp.
  • Mae Casnewydd Fyw wedi ymrwymo i gynrychioli grŵp mor amrywiol o gymunedau â phosibl. Rydym yn ceisio ac yn annog ceisiadau gan bobl o bob rhyw, ystod oedran neu ag anableddau a chynrychiolwyr o gymunedau LGBTQ+ a mwyafrifoedd byd-eang.
  • Bydd aelodaeth o'r grŵp yn cael ei hadolygu bob dwy flynedd.

Sut mae ymgeisio:

Dylid gwneud Datganiadau o Ddiddordeb trwy roi cyflwyniad byr i'ch cefndir, eich sgiliau a’ch priodoleddau. Gellir cyflwyno hwn mewn nifer o ffyrdd gan gynnwys dogfen ysgrifenedig neu wedi'i theipio; recordiad neu gyflwyniad fideo; neu gais llais neu sain.

Dylid anfon Datganiadau o Ddiddordeb at Andrea Ovey yn andrea.ovey@newportlive.co.uk erbyn 31 Ionawr 2022. Ar gyfer unrhyw ymholiadau cyn eu cyflwyno, cysylltwch ag Andrea ar yr e-bost uchod.