Poster featuring Hope the lego lady Rhondda

 

Wedi’i chreu o 80,000 o ddarnau Lego, mae Hope yn Swffragét maint go iawn sy'n mynd ar daith ledled y wlad i godi ymwybyddiaeth o ddemocratiaeth. Bydd Hope yn cael ei harddangos yng nghyntedd Glan yr Afon trwy gydol mis Gorffennaf 2022.

Ar ddydd Sadwrn 2 Gorffennaf o 10-11am bydd Grŵp Llywio'r Cerflun ar gyfer Arglwyddes Rhondda yn croesawu cerflun anhygoel Hope i Gasnewydd ar gyfer ei harhosiad mis Gorffennaf gyda digwyddiad dadorchuddio a chodi arian swyddogol.

Y digwyddiad hwn yw'r cyntaf o gyfres o ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal trwy gydol mis Gorffennaf, gyda'r nod o godi arian ar gyfer cerflun ar gyfer y swffragét arwrol o Gasnewydd – Arglwyddes Rhondda.