Ddydd Iau yma am 8pm, pan fydd y genedl ar stepen eu drysau yn clapio ein gofalwyr, caiff Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yng Nghasnewydd ei goleuo’n las er anrhydedd staff y GIG a gweithwyr allweddol sy’n darparu gwasanaethau allweddol yn ystod argyfwng y Coronafeirws.

Yn dilyn canllawiau Llywodraeth y DU ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae Glan yr afon wedi bod ar gau i'r cyhoedd ers 16 Mawrth. Caiff yr adeilad ei oleuo'n las ynghyd â channoedd o leoliadau eraill ledled y DU yn rhan o ymgyrch #GolauGlas i ddiolch i'r GIG a'r rhai sy'n peryglu eu hiechyd i helpu eraill.

Dywedodd Steve Ward, Prif Weithredwr Casnewydd Fyw "er ein bod yn y sefyllfa ddigyffelyb hon ac yn methu â chroesawu cynulleidfaoedd i Glan yr Afon, drwy oleuo ein theatr yng nghanol y ddinas gallwn fynegi ein diolch i'r gweithwyr allweddol anhygoel sy'n peryglu eu hiechyd yn ystod y pandemig hwn i helpu eraill."

Yn ystod y cyfnod cau, mae Casnewydd Fyw sy'n gyfrifol am redeg y theatr, wedi bod yn rhannu gweithgareddau a dangosiadau ar eu gwefan i gefnogi cymuned Casnewydd gyda bod yn greadigol tra'u bod gartref, ynghyd ag ymarferion a chynnwys eraill i helpu pobl i gadw’n Hapus ac yn Iach Gartref.

Gallwch gael mwy o wybodaeth ar eu gwefan yma