Ydych chi'n barod i ddatblygu’ch sgiliau tennis i'r lefel nesaf? Canolfan Tennis Casnewydd yw’r lle i chi. Rydyn ni’n cynnig sesiwn tennis 1 i 1 unigryw ar gyfer pobl ifanc ac oedolion! P'un a ydych chi’n newydd i’r gêm neu'n gobeithio mireinio'ch techneg, mae ein hyfforddwyr arbenigol yma i'ch helpu i gyrraedd eich gwir botensial ar y cwrt.

Canolfan Tennis Casnewydd - y lle i feithrin sêr tennis yfory!

Adult 121 tennis

Sesiwn Tennis i Oedolion: Ailddarganfod Eich Cariad at y Gêm

Ar gyfer oedolion sy'n dymuno ailddarganfod eu cariad at y gêm neu ddechrau hobi newydd, mae ein sesiwn 1 i 1 yn berffaith i chi. Waeth beth fo'ch lefel bresennol, bydd ein hyfforddwyr yn asesu eich gallu ac yn teilwra'r sesiwn i gyd-fynd â'ch nodau. P'un a ydych chi’n dymuno mireinio'ch strôc neu ganolbwyntio ar dechnegau penodol, gallwn eich helpu.

Sesiwn 30 munud:

  • Oedolyn £17.10

Sesiwn 60 munud:

  • Oedolyn £34.20

Bydd gweithio'n agos gyda'n hyfforddwyr ymroddedig yn rhoi hwb i'ch hyder ar y cwrt ac oddi arno. Wrth i chi weld eich sgiliau'n gwella, byddwch yn cael eich cymell i herio'ch hun a chyrraedd uchelfannau newydd yn eich taith tennis.

Ymholwch Nawr
LTA Orange Youth

Sesiwn Tennis Ieuenctid: Meithrin Pencampwyr Yfory

Mae ein sesiwn tennis ieuenctid wedi'u cynllunio i fod yn hwyl, yn ddengar ac yn addysgol. Rydyn ni’n darparu ar gyfer pob lefel sgiliau, o ddechreuwyr i athletwyr ifanc uchelgeisiol. Mae ein hyfforddwyr yn defnyddio dull addysgu blaengar sy'n sicrhau sylfaen gref wrth gadw'r brwdfrydedd yn fyw. Y ogystal â datblygu sgiliau tennis, bydd eich plentyn hefyd yn dysgu gwersi bywyd gwerthfawr fel disgyblaeth, gwaith tîm a chwarae teg.

Sesiwn 30 munud:

  • Ieuenctid £14.70

Sesiwn 60 munud:

  • Ieuenctid £29.30

Mae ein dull hyfforddi personol yn sicrhau bod pob chwaraewr ifanc yn cael sylw llwyr, gan feithrin cariad at y gamp a'u grymuso i gyrraedd uchelfannau newydd yn eu taith tennis.

Ymholwch Nawr
121 Tennis Lessons

Sesiynau Taro: Dyrchafu’ch Gêm Tennis

Mae ein Sesiynau Taro, a ddarperir gan ein Cynorthwywyr Tennis LTA L1, yma i fynd â’ch datblygiad chwarae i uchelfannau newydd. P'un a ydych chi'n oedolyn neu'n berson ifanc â diddordeb mewn tennis, ein Sesiynau Taro yn ein cyrtiau tennis rhagorol yw eich tocyn i hogi eich sgiliau fel erioed o'r blaen.

Ar gyfer chwaraewyr sydd eisoes yn hyfforddi’n rheolaidd ac sydd â gafael dda ar wasanaethu, ralïo, a sgorio, mae ein Sesiynau Taro yn cynnig yr arfer ralïo atodol perffaith. Er nad yw'r sesiynau hyn yn cynnwys hyfforddi neu addysgu ffurfiol, maen nhw’n gyfle gwerthfawr i weithio ar eich ralïo, patrymau chwarae a sgorio pwyntiau.

Sesiwn 30 munud:

  • Pobl ifanc £9.70

  • Oedolion £10.75

Sesiwn 60 munud:

  • Pobl ifanc £19.35

  • Oedolion £21.50

P'un a ydych chi'n chwaraewr profiadol sy'n gobeithio mireinio'ch sgiliau, neu'n athletwr uchelgeisiol sy'n chwilio am gyfle i ymarfer a chwarae, Sesiynau Taro yw'r ffordd ymlaen.

Ymholwch Nawr

Cynhyrchion Tenis

Edrychwch ar yr ystod wych o gynhyrchion tennis rydyn ni'n eu gwerthu yn lleoliadau Casnewydd Fyw.

Gweld Cynhyrchion Tennis