Mae Momentwm yn gweithio gyda busnesau ar hyd a lled Casnewydd a'r ardaloedd cyfagos i greu gweithleoedd iachach, mwy cynaliadwy drwy ei gwneud hi'n haws i weithwyr ddewis cerdded, olwyno a beicio fel rhan o'u teithiau bob dydd.

 

Gall Momentwm helpu eich busnes am ddim a darparu'r canlynol i'ch gweithwyr:

  • Archwiliadau Iechyd Beiciau Ar y Safle

  • Cynlluniau Benthyca Beiciau

  • Trafodaethau Ymgysylltu â Staff ynghylch teithio cynaliadwy.

  • Archwiliad iechyd am ddim ar un o'n Peiriannau Gwirio Iechyd Technogym.

  • Llwybr rydych chi'n cymudo arno ar un o'n beiciau Technogym clyfar.

Mae Momentwm yn datblygu gwasanaethau newydd cyffrous hefyd gan gynnwys Gweithdai DPP, cynlluniau teithio Cynaliadwy penodol i weithwyr a mwy, felly dewch yn ôl am fwy o gyfleoedd ar sut y gallwn gefnogi eich busnes.

Llenwch y ffurflen isod heddiw a byddwn yn cadw mewn cysylltiad am y cyfleoedd sydd ar gael i chi a'ch cyflogwr drwy e-bost.

Required
Required
Required
Required
Required

Rydym o ddifri ynghylch diogelu eich data ac ni fyddwn yn gwerthu nac yn cyfnewid eich manylion â thrydydd partïon. Gallwch newid eich dewisiadau neu dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg drwy glicio ar yr adran berthnasol yn yr e-bost a gawsoch. Ceir gwybodaeth ynghylch sut rydym yn diogelu ac yn defnyddio eich data personol yn ein polisi preifatrwydd.

Ymuno Â'n Cylchlythyr

Cewch y newyddion diweddaraf a diweddariadau ynghylch Momentwm, gan gynnwys sesiynau, digwyddiadau a chymorth i fusnesau sydd am fod yn gyflogwr sy’n hyrwyddo beicio.

Cofrestru Nawr