Mae Cynllun Llogi Beiciau Momentwm yma i alluogi mwy o bobl i ddewis beicio. Rydym yn cynnig mynediad fforddiadwy, byrdymor i feiciau. P'un a ydych chi'n cymudo, bod yn fwy heini neu eisiau mynd allan gyda'r teulu. Mae'r cynllun hwn yn caniatáu i chi gael mynediad i'r dewisiadau hyn cyn i chi brynu eich beic eich hun yn y tymor hwy.

 

Gallwch gael mynediad i feic safonol neu os ydych chi eisiau ychydig o gymorth i ddringo’r bryniau gallwch ddewis un o'n E-feiciau â chymorth trydanol.

901 Bike Hire Welsh.png

Beth fyddwch chi’n ei gael

  • Beic safonol neu E-feic (Gwefrydd os yw'n berthnasol)
  • Helmed
  • Clo Beic
  • Cyflwyniad personol ar sut i ddefnyddio'r offer yn ddiogel gan Swyddogion Ymgysylltu Momentwm.

Sut mae’n gweithio

  1. Cysylltwch â thîm Momentwm i gofrestru diddordeb drwy e-bost i Momentwm@casnewyddfyw.co.uk.
  2. Byddwn yn eich helpu i ddewis pa feic ac offer sydd eu hangen arnoch ac yn trefnu casglu eich beic.
  3. Bydd y casglu naill ai o Station Gym neu Felodrom Cenedlaethol Geraint Thomas Cymru.
  4. Wrth gasglu, bydd angen i chi ddod â phrawf adnabod â llun a phrawf cyfeiriad.
  5. Pan fyddwch chi’n hapus â'ch beic a'ch offer ac wedi derbyn eich cyflwyniad i’ch beic, byddwch yn cael eich cyfeirio i dderbynfa'r lleoliad (Station Gym neu Felodrom Cenedlaethol Geraint Thomas Cymru) i dalu.
  6. Beiciwch i ffwrdd yn hapus, nes i chi ddychwelyd eich beic ar y dyddiad a'r amser y cytunwyd arno.