Mae'r sesiynau hyn yn addas ar gyfer pobl sydd am fagu hyder wrth feicio ar y ffordd. Rydym yn argymell eich bod yn gallu cwblhau taith 30 munud ar gyflymder cyson i gymryd rhan.
Bydd ein sesiwn Crefft a Sgiliau Ffyrdd yn rhoi'r sylfaen i chi a fydd yn eich galluogi i reidio'n ddiogel yn hyderus ar y ffyrdd agored. Byddwch chi’n datblygu'r sgiliau canlynol....
- Bod yn amlwg ar y ffyrdd: Ble i feicio a sut mae'n newid ger cyffyrdd, cylchfannau, ac o amgylch rhwystrau
- Arsylwi: Pryd i edrych dros eich ysgwydd
- Cyfathrebu: Pryd, ble, a sut i arwyddo'n glir
- Ymwybyddiaeth o flaenoriaeth: Pwy sydd â blaenoriaeth mewn gwahanol sefyllfaoedd ffyrdd
Pris sesiynau yw £12.00 y pen.
Mae’n bosib trefnu sesiynau ar-lein, drwy ap Casnewydd Fyw neu drwy ffonio 01633 656757.