A yw'ch beic yn ddiogel i'w reidio? Gallwn ei drwsio neu ddangos i chi sut mae gwneud.
Mae Momentwm yn cynnig cyfle i chi gael eich beic wedi'i drwsio gan un o'n mecanyddion cymwysedig yn ein sesiynau Dr Beic Momentwm, neu gallwn eich dysgu yn ein gweithdai addysgol ymarferol sut i drwsio'ch beic eich hun.
Dr Beic Momentwm
Mae ein sesiynau Dr Beic Momentwm ar gael i’w defnyddio am ddim. Bydd un o'n mecanyddion beiciau cymwysedig yn rhoi archwiliad iechyd llawn i'ch beic ac yn cwblhau unrhyw fân atgyweiriadau neu addasiadau. Ar gyfer unrhyw atgyweiriadau mawr byddwn yn eich cyfeirio i siop feiciau gydag arweiniad ar ba waith y mae angen ei gwblhau.
Dyddiadau a Lleoliadau presennol Dr Beic Momentwm:
· Marchnad Casnewydd, Dydd Gwener olaf y mis, 10:00-15:00.
Gellir archebu sesiwn Dr Beic Momentwm naill ai drwy'r wefan, yr ap neu drwy alw draw!
Gweithdy Trwsio Beic
Mae Momentwm yn darparu cyfres o weithdai a fydd yn eich dysgu sut i drwsio eich beic eich hun. Mae gennym opsiynau sydd ar gael i ddechreuwyr sydd ag ychydig iawn o brofiad o ran mecaneg beiciau ac rydym yn cynnig gweithdai mwy cynhwysfawr os hoffech fynd ychydig yn fwy technegol. Nid cyrsiau yw ein gweithdai, byddwn yn rhoi i chi y sgiliau sydd eu hangen arnoch i weithio ar eich beic eich hun, heb fod yn gymwys i wneud gwaith mewn rôl broffesiynol.
Dyddiadau a Lleoliadau Beiciau:
Gweithdy Trwsio Beic Iechyd Meddwl yn Hwb Eco’r Dreigiau, Rodney Parade
Dydd Llun 11eg 17:30 tan 18:30 a Dydd Llun 1 Mehefin 2026
- Sut i gynnal a chadw eich beic
- Trwsio twll yn y teiar
- Addasiadau i’r brêcs a’r gêr
Cadwch eich lle am ddim ar-lein, drwy ap Casnewydd Fyw neu drwy e-bost i Momentwm@newportlive.co.uk.
Yn dod yn fuan – Trwsio Beic Lefel 1, Lefel 2 a Lefel 3. Cadwch lygad amdanynt.
Ymuno Â'n Cylchlythyr
Cewch y newyddion diweddaraf a diweddariadau ynghylch Momentwm, gan gynnwys sesiynau, digwyddiadau a chymorth i fusnesau sydd am fod yn gyflogwr sy’n hyrwyddo beicio.
Cofrestru Nawr