Clwb Nofio a Pholo Dŵr Dinas Casnewydd

 

Clwb Nofio Dinas Casnewydd 

Mae gan Glwb Nofio Dinas Casnewydd 7 sgwad gystadleuol sy'n amrywio o Academïau i Sgwad Perfformio Genedlaethol. Mae gan y clwb dîm ymroddedig o hyfforddwyr proffesiynol a gwirfoddol cymwys sy'n goruchwylio'r ddwy sgwad. Mae'r sgwadiau'n hyfforddi yn y Ganolfan Tenis a Nofio Ranbarthol a'r Ganolfan Byw’n Actif.

 
Clwb Nofio a Pholo Dŵr Dinas Casnewydd

Mae adrannau i iau a hŷn yn y clwb cyffrous hwn. Bydd aelodau newydd yn dysgu sgiliau dŵr newydd ym myd Polo Dŵr, tra'n gwella techneg eu strociau a'u stamina nofio hefyd.  Mae hefyd yn ffordd wych o wneud ffrindiau newydd a chymryd rhan yn y gamp hwyliog, Polo Dŵr.  Rhaid i blant fod yn 8 oed o leiaf ac yn gallu nofio 100 metr a bod yn hyderus mewn dŵr dwfn. Mae chwaraewyr iau a hŷn yn cystadlu mewn cynghreiriau cystadleuol perthnasol trwy gydol y tymor.  

 

Mwy o wybodaeth  neu galwch 01633 656757

Off the Blocks

Mae Off the Blocks yn blatfform adnoddau ar-lein am ddim a gynhyrchir mewn cydweithrediad â staff perfformiad Home Nation, UK Sport a'r BSCA y gellir ei ddefnyddio gan hyfforddwyr, rhieni a nofwyr. Mae'r platfform yn llawn o fideos enghreifftiol o athletwyr gwrywaidd a benywaidd elitaidd yn perfformio driliau, sgiliau a thechnegau ynghyd â thaflenni ffeithiau y gellir eu lawrlwytho ar gyfer hyfforddwyr.

May o wybodaeth