Dim ond unwaith y flwyddyn mae penblwyddi’n codi, felly gadewch i ni ‘neud e’n ddiwrnod i’w gofio!

 

Logwch neuadd chwaraeon i fwynhau 1 awr o chwaraeon, yn ddelfrydol ar gyfer cynnal parti pêl-droed, pêl-fasged neu rygbi ar gyfer plentyn sy’n dwlu ar chwaraeon. Bydd yr holl offer gan gynnwys bibiau a pheli yn cael eu darparu.

Yn ystod ail awr eich parti, byddwch yn gallu defnyddio ein Hystafell Partïon i weini bwyd, lluniaeth a chacen i’ch gwesteion (wedi’u darparu gennych chi) - bydd jygiau o ddŵr oer a chwpanau yn cael eu darparu os ydych yn dymuno dod â diod.*

Gallwch addurno’r Ystafell Partïon fel y dymunwch wrth gyrraedd y lleoliad. Os hoffech ddod â cherddoriaeth ar eich dyfais symudol, gellir darparu seinydd cludadwy ar gais hefyd.  

Nid yw gwahoddiadau a bagiau parti yn cael eu cyflenwi.  

Mae Partïon Chwaraeon yn addas i blant 5+ oed.

Cynhelir partïon ar ddydd Sadwrn a dydd Sul o 2pm ymlaen yn y Ganolfan Byw'n Actif.

£71.45 (hyd at 20 o blant) I £2.95 fesul plentyn ychwanegol

Ymholwch Nawr

 

Archebion Parti

Gellir archebu hyd at 6 wythnos ymlaen llaw – mae angen talu'n llawn wrth archebu.  

I drefnu, ffoniwch 01633 656757, e-bostiwch customerservice@newportlive.co.uk neu wrth dderbynfa unrhyw un o ganolfannau Casnewydd Fyw.  

Lawrlwytho Gwahoddiad Chwaraeon

Parcio

Mae modd parcio am ddim yn y Canolfan Byw'n Actif sydd yn Ysgol Uwchradd Casnewydd ym Metws.  Teipiwch god post NP20 7YB yn SATNAV eich car.  

 

*Rhaid i drefnydd y digwyddiad gwblhau Ffurflen Arlwyo Gartref yn Ddiogel o leiaf wythnos cyn y parti a’i dychwelyd mewn e-bost i customerservice@newportlive.co.uk.  Bydd y ffurflen yn cael ei hanfon at drefnydd y digwyddiad ar adeg archebu.