Nae Casnewydd Fyw wedi lansio rhaglen newydd o weithgareddau i gefnogi pobl sy’n 60 oed ac yn hŷn i aros yn actif ac mewn cysylltiad. Mae hyn yn cynnwys amserlen o Hyfforddiant Dwysedd Isel a gaiff ei phostio’n wythnosol ar Facebook page a YouTube channel  Casnewydd Fyw.

Mae’r sesiynau newydd wedi’u teilwra yn benodol ar gyfer pobl 60 oed ac yn hŷn, er eu bod hefyd yn addas i bobl eraill sydd wedi cael eu mynediad at weithgareddau corfforol wedi’i gyfyngu oherwydd canllawiau a chyfnodau cloi lleol. Hefyd gallwch chi ddod o hyd i weithgareddau o ddwysedd canolig ac uwch ar ein YouTube channel yn amrywio o HIIT (High Intensity Interval Training) i Zumba wedi’u cyflwyno gan ein tîm ffitrwydd a’n hyfforddwyr dosbarthiadau.

 Fideos Aerobeg ac Ymwrthedd Dwysedd Isel      Fideos Pilates Dwysedd Isel

Bydd mwy o raglenni yn cael eu cyflwyno dros yr wythnosau i ddod ynghyd â sesiynau ar:

·       Awgrymiadau Iechyd a Maeth

·       Sicrhau bod ymarfer corff yn gyflawnadwy

·       Mesur cynnydd corfforol a seicolegol 

·       Boreau coffi rhithwir

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen 60 oed ac yn hŷn ffoniwch 01633 656757 neu e-bostiwch customerservice@newportlive.co.uk

Mae’r rhaglen 60 oed ac yn hŷn wedi’i ariannu gan Chwaraeon Cymru.

 

Diogelwch

Trwy ddewis cymryd rhan yn y Sesiwn Ymarfer Corff Casnewydd Fyw honmae’r sawl sy’n cymryd rhan yn derbyn ei fod yn ymgymryd â’r sesiwn ac yn ymgysylltu â hi heb oruchwyliaeth, ar ei berwyl ei hun.

Anogir cyfranogwyr i ddefnyddio synnwyr cyffredin a dylech bob amser geisio arweiniad gweithiwr meddygol proffesiynol cyn ymgymryd ag unrhyw ffurf ar chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar-lein.   
Dylai cyfranogwyr sydd â chyflyrau meddygol, anafiadau neu anableddau sy'n bodoli eisoes a allai effeithio ar eu gallu i gymryd rhan yn y sesiwn chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar-lein ofyn am gyngor meddygol a chael cadarnhad ysgrifenedig ei bod yn iawn iddynt gymryd rhan cyn gwneud.  
Pan fydd sesiynau’n fyw neu ond yn hygyrch i gyfranogwyr yn ôl disgresiwn Casnewydd Fyw, cyfrifoldeb y cyfranogwr yw roi gwybod i’r hyfforddwr am unrhyw gyflyrau, anafiadau neu anableddau cyn cymryd rhan yn y sesiwn chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar-lein.   

 

Ymarfer Corff Gartref: Gwybodaeth Ddiogelwch

Recordio Dosbarthiadau Ymarfer Corff Byw 

 

Be Active Wales Logo