Rheolwr Adnoddau Dynol
(Dechrau ar Unwaith)
Cyflog £33,733 i £37,775
Mae Casnewydd Fyw yn recriwtio Rheolwr Adnoddau Dynol i arwain a pharhau i ddatblygu’r swyddogaeth Adnoddau Dynol ar draws ein busnes. Rydym yn chwilio am unigolyn dynamig a fydd yn chwarae rhan ganolog fel rhan o’r tîm rheoli wrth ddylunio a datblygu swyddogaeth Adnoddau Dynol effeithlon ac effeithiol ar draws pob gwasanaeth a chefnogi gweithlu o dros 400 o gyflogeion.
Os ydych yn weithiwr Adnoddau Dynol proffesiynol sydd eisiau creu argraff a gweithio i sefydliad sydd wedi ymrwymo i ysbrydoli ei gwsmeriaid a’i weithlu i fod yn hapusach ac yn iachach gallai’r rôl fod yn berffaith addas i chi.
Byddwch yn ffurfio perthnasoedd credadwy ar y lefel uwch yn fewnol ac yn allanol gan sicrhau bod Casnewydd Fyw yn parhau i fod yn gyflogwr enghreifftiol. Er bod y pandemig byd-eang yn effeithio ar bob busnes, mae Casnewydd Fyw mewn sefyllfa gref trwy gefnogaeth barhaus ei phartneriaid strategol gan gynnwys Cyngor Dinas Casnewydd. Mae’r rôl hon yn cynnig cyfle rhagorol i unigolyn brwdfrydig sydd eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.
Byddwch yn weithiwr Adnoddau Dynol cyffredinol effeithiol, yn arweinydd cryf ac mae’n rhaid bod gennych y gallu i ymgymryd â rôl ddynamig ac eang gan dynnu ar eich profiad sylweddol blaenorol.
Mae hwn yn gyfle i adeiladu ar waith diweddar i ddatblygu ein swyddogaeth Adnoddau Dynol gan greu ymagwedd gyffrous a dynamig i reoli, datblygu a lles pob cyfogai.
Proses Ymgeisio
Gallwch lawrlwytho ffurflen gais a disgrifiad swydd o wefan Casnewydd FYW www.casnewyddfyw.co.uk neu fel arall, maent ar gael trwy wneud cais mewn e-bost i jobs@newportlive.co.uk
Asiantaethau Recriwtio: Rhoddir ystyriaeth gychwynnol i ymgeiswyr sy’n gwneud cais uniongyrchol, ac ar ôl hynny ystyrir ymgeiswyr o asiantaethau.
I gael trafodaeth anffurfiol am y swydd cysylltwch ag ymholiadau Casnewydd Fyw ar 01633 656757 a gofyn i siarad â’r Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau
Dychwelwch y ffurflenni cais cyflawn i jobs@newportlive.co.uk
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: hanner nos ddydd Sul 22 Tachwedd 2020
Creu’r rhestr fer: 23 Tachwedd 2020
Bwriedir cynnal cyfweliadau: 30 Tachwedd 2020