LLYSGENNAD LLES

 

Gradd 4 – PCG 17 – 121 (£18,401 - £20,912) 

37 awr – Llawn amser
(Cyfnod Penodol tan 31 Mawrth 2022)
(4 Swydd)

 

Mae Casnewydd Fyw yn ymddiriedolaeth arobryn nid er elw sy’n ymwneud â chwaraeon, hamdden a diwylliant; ac yn elusen gofrestredig y DU sydd â hanes ardderchog o ddarparu rhaglenni a gwasanaethau arloesol i'n cymunedau a’n trigolion sy'n 'ysbrydoli pobl i fod yn hapusach ac yn iachach'. 


Rydym yn dymuno recriwtio pedwar llysgennad lles sydd â chymwysterau a phrofiad addas i gefnogi'r gwaith o gyflawni ymgyrch Casnewydd Hapusach Iachach.


Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn eiriolwyr angerddol dros iechyd a lles, gydag agwedd gadarnhaol at ymgysylltu ac ysbrydoli pobl o bob oed i fod yn fwy actif.


Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth ymgysylltu â phoblogaeth Casnewydd drwy 5 elfen allweddol fel rhan o'r ymgyrch newydd hon: Cyfleusterau, Cymunedau, Ysgolion, Gweithleoedd a'r Cartref. Byddwch yn ganolog wrth siarad, gwrando, ymgysylltu a chefnogi pobl i adnabod, asesu a gweithredu eu hanghenion corfforol, cymdeithasol ac emosiynol.


Byddwch hefyd yn ddylanwadol ac yn ysgogol ac yn gyrru’r ymdrech i gael pobl i gynyddu eu lefelau gweithgarwch, lleihau rhwystrau i ymgysylltu neu gyfeirio at ddarpariaeth leol sy'n addas i'w hanghenion.


Bydd angen cefndir naill ai mewn hyfforddiant chwaraeon a gweithgarwch corfforol, ymgysylltu â phlant a phobl ifanc, iechyd a ffitrwydd, iechyd a lles, neu ddarparu gweithgareddau cymunedol.
Rhaid i chi ddangos tystiolaeth o gymhwysedd digidol, gweithio o’ch pen a’ch pastwn eich hun a phrofiad o ddelio â phobl o bob oed, gan ddarparu gwybodaeth a chyngor cadarn.
Bydd gofyn am y gallu i deithio'n helaeth ar draws y ddinas.


Mae’r swydd wedi’i heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr (1974) ac mae’n amodol ar wiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) llwyddiannus.


I gael trafodaeth anffurfiol am y swydd cysylltwch ag ymholiadau Casnewydd Fyw ar 01633 656757 a gofynnwch am gael siarad â Richard Dale, Pennaeth Datblygu Busnes neu e-bostiwch richard.dale@newportlive.co.uk.


Y Broses Ymgeisio
 Gallwch lawrlwytho ffurflen gais a disgrifiad swydd o wefan Casnewydd Fyw isod neu fel arall, maent ar gael trwy wneud cais mewn e-bost i jobs@newportlive.co.uk
Dychwelwch y ffurflenni cais wedi ei cwblhau i jobs@newportlive.co.uk

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Sul 6 Mehefin 2021

Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal yn ystod yr wythnos yn cychwyn: Dydd Llun 14 Mehefin 2021  

 

Job Description         Application Form