Cyrraedd Canolfan Casnewydd
Mae Canolfan Casnewydd wrth ymyl maes parcio Ffordd y Brenin, taith gerdded dwy funud o'r brif orsaf fysus a chanolfan siopa Friars Walk a thaith gerdded 15 munud o orsaf drenau Casnewydd.
Cyfeiriad: Canolfan Casnewydd, 1 Ffordd y Brenin, Casnewydd, NP20 4UR
Ar Drafnidiaeth Gyhoeddus
Mae sawl bws yn stopio ar Emlyn Street gyferbyn â Ffordd y Brenin.
Bws 7, 30, 35, 36, 37, 40 a 41
6/6E/7 ALWAY (04-11-2018)
35/36 DYFFRYN/CELTIC SPRINGS (02-09-2019)
37 RHIWDERIN (02-07-2018)
40/41 PILGWENLLI (02-07-2018)
Trwy Yrru
O’r M4 (Cyffordd 26) dilynwch yr arwyddion i ganol y ddinas ar hyd Malpas Road (A4051), o dan y draphont ac ar hyd Ffordd y Brenin. Ewch ymlaen ar hyd Ffordd y Brenin a heibio i Theatr a Chanolfan Gelfydyddau Glan yr Afon ar y chwith. Bydde Canolfan Casnewydd ar yr ochr dde. Os ydych yn parhau heibio i'r adeilad ac yna'n troi i'r dde wrth y set nesaf o oleuadau traffig ger y brifysgol ar y chwith, bydd modd i chi yrru i mewn i faes parcio Ffordd y Brenin.
Lle Parcio ar gyfer Canolfan Casnewydd
Gall cwsmeriaid Canolfan Casnewydd hawlio 2 awr o barcio am ddim ym maes parcio Ffordd y Brenin trwy ddilysu eu tocyn yn nerbynfa Canolfan Casnewydd. Ar ôl y 2 awr gyntaf, bydd y ffioedd parcio ceir arferol yn berthnasol; edrychwch ar wefan y maes parcio i weld y ffioedd diweddaraf.
Mae nifer prin o leoedd parcio ychwanegol yn y maes parcio i gwsmeriaid y tu ôl i Ganolfan Casnewydd.
Mae lle parcio hefyd ar gael ym maes parcio talu ac arddangos ar lan yr afon ac ar gael ym maes parcio Friars Walk.
Cyrraedd y Ganolfan Tenis a Nofio Ranbarthol
Mae Canolfan Tenis a Nofio Ranbarthol ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd ynghyd â Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas a Stadiwm Casnewydd yn ardal Llyswyry yng Nghasnewydd.
Ar yr un safle, er nad yw’n cael ei reoli gan Newport Live, mae Parc y Ddraig gyda Chanolfan Genedlaethol Datblygu Pêl-droed Cymru.
Cyfeiriad: Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd, Ffordd y Felodrom, Casnewydd, NP19 4RA
Trwy yrru o’r gorllewin (Caerdydd)
O'r M4, Cyffordd 28, yr allanfa i'r A48 tua'r A467 Casnewydd/Rhisga. Wrth y gylchfan gyntaf, cymerwch y drydedd allanfa i'r Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol. Wrth yr ail gylchfan, cymerwch y drydedd allanfa i Docks Way/y Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol. Wrth y drydedd gylchfan, cymerwch yr allanfa gyntaf ac arhoswch ar y Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol. Wrth y bedwaredd gylchfan, cymerwch yr ail allanfa ac arhoswch ar y Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol. Wrth y bumed gylchfan, cymerwch yr ail allanfa ac arhoswch ar y Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol. Wrth y chweched gylchfan, cymerwch y bedwaredd allanfa ac arhoswch ar y Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol. Trowch i'r chwith i Langland Way. Yna trowch i'r chwith cyntaf, yna trowch i'r dde. Gallwch wedyn naill ai fynd yn eich blaen i'r felodrom neu droi i'r dde i gyrraedd y Ganolfan Tennis a Nofio.
Trwy yrru o’r Dwyrain (Cas-gwent)
O’r M4, Cyffordd 24, cymerwch yr allanfa A48/A449 i Gasnewydd. Cadwch i'r chwith, dilynwch yr arwyddion tua chanol y ddinas ac ymuno’n raddol â Ringland Way/y Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol. Wrth y gylchfan gyntaf, cymerwch yr ail allanfa ac arhoswch ar y Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol. Wrth yr ail gylchfan, cymerwch yr ail allanfa ac arhoswch ar y Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol. Wrth y drydedd gylchfan, cymerwch yr allanfa gyntaf ac arhoswch ar y Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol. Wrth y bedwaredd gylchfan, cymerwch y drydedd allanfa ac arhoswch ar y Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol. Wrth y bumed gylchfan, cymerwch yr ail allanfa ac arhoswch ar y Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol. Trowch i'r chwith i Langland Way. Yna trowch i'r chwith cyntaf, yna trowch i'r dde. Gallwch wedyn naill ai fynd yn eich blaen i'r felodrom neu droi i'r dde i gyrraedd y Ganolfan Tennis a Nofio.
Ar Drafnidiaeth Gyhoeddus
Llwybrau yno o'r orsaf fysus, bws 43, 74 ac X74
Llwybrau’n ôl i’r orsaf fysus, bws 42, 74 ac X74.
42/43/44 MOORLAND PARK/PARC MANWERTHU YSBYTY (02-09-2019)
73/X74/74 CAS-GWENT TRWY FAGWYR CIL-Y-COED (02-09-2019)
Lle Parcio ar gyfer y Ganolfan Tenis a Nofio Ranbarthol
Mae lle parcio am ddim ar gael i'r holl leoliadau ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd.
Cyrraedd Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas
Mae Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd ynghyd â'r Ganolfan Tennis a Nofio Ranbarthol a Stadiwm Casnewydd yn ardal Lyswyry yng Nghasnewydd.
Ar yr un safle, er nad yw’n cael ei reoli gan Newport Live, mae Parc y Ddraig gyda Chanolfan Genedlaethol Datblygu Pêl-droed Cymru.
Cyfeiriad: Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd, Ffordd y Felodrom, Casnewydd, NP19 4RA
Trwy yrru o’r gorllewin (Caerdydd)
O'r M4, Cyffordd 28, yr allanfa i'r A48 tua'r A467 Casnewydd/Rhisga. Wrth y gylchfan gyntaf, cymerwch y drydedd allanfa i'r Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol. Wrth yr ail gylchfan, cymerwch y drydedd allanfa i Docks Way/y Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol. Wrth y drydedd gylchfan, cymerwch yr allanfa gyntaf ac arhoswch ar y Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol. Wrth y bedwaredd gylchfan, cymerwch yr ail allanfa ac arhoswch ar y Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol. Wrth y bumed gylchfan, cymerwch yr ail allanfa ac arhoswch ar y Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol. Wrth y chweched gylchfan, cymerwch y bedwaredd allanfa ac arhoswch ar y Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol. Trowch i'r chwith i Langland Way. Yna trowch i'r chwith cyntaf, yna trowch i'r dde. Gallwch wedyn naill ai fynd yn eich blaen i'r felodrom neu droi i'r dde i gyrraedd y Ganolfan Tennis a Nofio.
Trwy yrru o’r Dwyrain (Cas-gwent)
O’r M4, Cyffordd 24, cymerwch yr allanfa A48/A449 i Gasnewydd. Cadwch i'r chwith, dilynwch yr arwyddion tua chanol y ddinas ac ymuno’n raddol â Ringland Way/y Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol. Wrth y gylchfan gyntaf, cymerwch yr ail allanfa ac arhoswch ar y Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol. Wrth yr ail gylchfan, cymerwch yr ail allanfa ac arhoswch ar y Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol. Wrth y drydedd gylchfan, cymerwch yr allanfa gyntaf ac arhoswch ar y Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol. Wrth y bedwaredd gylchfan, cymerwch y drydedd allanfa ac arhoswch ar y Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol. Wrth y bumed gylchfan, cymerwch yr ail allanfa ac arhoswch ar y Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol. Trowch i'r chwith i Langland Way. Yna trowch i'r chwith cyntaf, yna trowch i'r dde. Gallwch wedyn naill ai fynd yn eich blaen i'r felodrom neu droi i'r dde i gyrraedd y Ganolfan Tennis a Nofio.
Ar Drafnidiaeth Gyhoeddus
Llwybrau yno o'r orsaf fysus, bws 43, 74 ac X74
Llwybrau’n ôl i’r orsaf fysus, bws 42, 74 ac X74.
42/43/44 MOORLAND PARK/PARC MANWERTHU YSBYTY (02-09-2019)
73/X74/74 CAS-GWENT TRWY FAGWYR CIL-Y-COED (02-09-2019)
Lle Parcio ar gyfer Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas
Mae lle parcio am ddim ar gael i'r holl leoliadau ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd.
Cyrraedd Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon
Mae Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon gyferbyn â’r brif orsaf fysus a chanolfan siopa Friars Walk, ac yn daith gerdded 10 munud o orsaf drenau Casnewydd.
Cyfeiriad: Glan yr Afon, Ffordd y Brenin, Casnewydd, NP20 1HG
Wrth Yrru O’r M4 (Cyffordd 26) dilynwch yr arwyddion i ganol y ddinas ar hyd Malpas Road (A4051), o dan y draphont ac ar hyd Ffordd y Brenin. Mae Glan yr Afon ar yr ochr chwith. Yn union heibio’r adeilad mae tro chwith i faes parcio awyr agored bach ger adeilad Alacrity a'r maes parcio preifat â giât.
Mae'n bosibl gollwng a chasglu'n union y tu allan i'r adeilad, trwy wasgu'r seiniwr ger yr atalfa fynediad wrth ochr yr adeilad sy’n agos i’r castell. Er mwyn cael mynd trwy’r atalfa fynediad hon, mae angen i chi fynd dros y gylchfan a dod i lawr gan aros yn y lôn ar y chwith.
Ar Drafnidiaeth Gyhoeddus
Mae pob un o lwybrau Casnewydd wedi'u lleoli'n dda ar gyfer Glan yr Afon gan ei bod gyferbyn â'r orsaf fysus.
Parcio ar gyfer Glan yr Afon
Mae maes parcio talu ac arddangos bach ar hyd Glan yr Afon heibio adeilad Alacrity. Mae lle parcio hefyd o dan Ganolfan Siopa Friars Walk ac ym Maes Parcio Aml-lawr Canolfan Ffordd y Brenin.
Cyrraedd y Ganolfan Gysylltu
Cyfeiriad: Canolfan Gysylltu, Mendalgief Road, Casnewydd, NP20 2HF
Trwy Yrru
O'r M4, Cyffordd 26
Cymerwch Malpas Rd/A4051 i Gasnewydd. Wrth y gylchfan, cymerwch yr ail allanfa i’r B4591 hyd at y gylchfan. Wrth y gylchfan, cymerwch yr ail allanfa tuag at ganol y ddinas gan ymuno â'r A4042. Cymerwch yr ail allanfa dros y gylchfan nesaf ac yna trowch i'r chwith ar Frederick Street. Ar ddiwedd y ffordd, ewch i'r chwith i Commercial Road. Dilynwch y ffordd am tua 0.3 milltir ac yna trowch i'r dde i Adeline Street. Trowch i'r dde ar y stryd groes gyntaf i Pottery Terrace, trowch i'r chwith i Marion Street ac yna trowch i'r chwith i fynd i Mendalgief Rd. Bydd y Ganolfan Gysylltu ar y dde i chi.
Ar Drafnidiaeth Gyhoeddus
Bws 35 yno a Bws 36 yn ôl, gan aros yn Mendalgief Road (ger Jedo Close) neu ar Docks Way ger y parc manwerthu.
35/36 DYFFRYN/CELTIC SPRINGS (02-09-2019)
Parcio ar gyfer y Canolfan Gysylltu
Mae lle parcio ar safle’r Ganolfan Gysylltu i gwsmeriaid.
Cyrraedd y Ganolfan Byw’n Actif
Mae'r Ganolfan Byw'n Actif wedi'i lleoli yn Ysgol Uwchradd Casnewydd yn yr ardal Betws yng Nghasnewydd.
Cyfeiriad: Canolfan Byw’n Actif, Ysgol Uwchradd Casnewydd, Betws, Casnewydd, NP20 7YB
Google Maps
Trwy Yrru
O'r M4, Cyffordd 26, yr allanfa i'r A4051, yr allanfa i Gwmbrân/Gasnewydd Wrth y gylchfan, cymerwch y troad cyntaf i Malpas Road (A4051). Trowch i'r chwith i Bettws Lane. Trowch i'r chwith i Heol Senni. Bydd Ysgol Uwchradd Casnewydd a’r Ganolfan Byw’n Actif ar y dde.
Ar Drafnidiaeth Gyhoeddus
Defnyddiwch lwybrau 15 a 16 Bws Casnewydd
15/16 BETWS
Parcio yn y Ganolfan Byw'n Actif
Mae parcio am ddim i gwsmeriaid ar gael ar y safle.
Cyrraedd Stadiwm Casnewydd
Mae Stadiwm Casnewydd ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd ynghyd â Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas a’r Ganolfan Tennis a Nofio Ranbarthol yn ardal Lyswyry yng Nghasnewydd.
Ar yr un safle, er nad yw’n cael ei reoli gan Newport Live, mae Parc y Ddraig gyda Chanolfan Genedlaethol Datblygu Pêl-droed Cymru.
Cyfeiriad: Fordd y Stadiwm, Casnewydd, NP19 4PT
Google Maps
Trwy yrru o’r gorllewin (Caerdydd)
O'r M4, Cyffordd 28, yr allanfa i'r A48 tua'r A467 Casnewydd/Rhisga. Wrth y gylchfan gyntaf, cymerwch y drydedd allanfa i'r Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol. Wrth yr ail gylchfan, cymerwch y drydedd allanfa i Docks Way/y Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol. Wrth y drydedd gylchfan, cymerwch yr allanfa gyntaf ac arhoswch ar y Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol. Wrth y bedwaredd gylchfan, cymerwch yr ail allanfa ac arhoswch ar y Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol. Wrth y bumed gylchfan, cymerwch yr ail allanfa ac arhoswch ar y Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol. Wrth y chweched gylchfan, cymerwch y bedwaredd allanfa ac arhoswch ar y Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol. Trowch i'r chwith i Langland Way. Yna trowch i'r chwith cyntaf, yna trowch i'r dde. Gallwch wedyn naill ai fynd yn eich blaen i'r felodrom neu droi i'r dde i gyrraedd y Ganolfan Tennis a Nofio.
Trwy yrru o’r Dwyrain (Cas-gwent)
O’r M4, Cyffordd 24, cymerwch yr allanfa A48/A449 i Gasnewydd. Cadwch i'r chwith, dilynwch yr arwyddion tua chanol y ddinas ac ymuno’n raddol â Ringland Way/y Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol. Wrth y gylchfan gyntaf, cymerwch yr ail allanfa ac arhoswch ar y Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol. Wrth yr ail gylchfan, cymerwch yr ail allanfa ac arhoswch ar y Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol. Wrth y drydedd gylchfan, cymerwch yr allanfa gyntaf ac arhoswch ar y Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol. Wrth y bedwaredd gylchfan, cymerwch y drydedd allanfa ac arhoswch ar y Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol. Wrth y bumed gylchfan, cymerwch yr ail allanfa ac arhoswch ar y Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol. Trowch i'r chwith i Langland Way. Yna trowch i'r chwith cyntaf, yna trowch i'r dde. Gallwch wedyn naill ai fynd yn eich blaen i'r felodrom neu droi i'r dde i gyrraedd y Ganolfan Tennis a Nofio.
Ar Drafnidiaeth Gyhoeddus
Llwybrau yno o'r orsaf fysus, bws 43, 74 ac X74
Llwybrau’n ôl i’r orsaf fysus, bws 42, 74 ac X74.
42/43/44 MOORLAND PARK/PARC MANWERTHU YSBYTY (02-09-2019)
73/X74/74 CAS-GWENT TRWY FAGWYR CIL-Y-COED (02-09-2019)
Lle Parcio ar gyfer Stadiwm Casnewydd