gwirfoddolwyr

Mae gwirfoddolwyr yn rhan allweddol a hanfodol o Lan yr Afon yn gallu darparu a chyflwyno prosiectau, gweithdai a gweithgareddau gwych yn y lleoliad ac allan yn y gymuned, ac rydym bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr o bob oed.


 diddordeb mewn gwirfoddoli?

Mae Glan yr Afon angen pobl frwdfrydig a dibynadwy sydd â diddordeb yn y theatr a'r celfyddydau ac a allai helpu drwy roi eu hamser i wneud amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys-
•    Stiwardio
•    Cynorthwyo â gweithdai
•    Dosbarthu llenyddiaeth
•    Mynychu digwyddiadau gyda'r rhai y gallai fod angen cymorth ychwanegol arnynt
•    Yn genhadon i'r lleoliad ac yn siarad ag aelodau o'r cyhoedd a grwpiau am yr hyn sydd gan y lleoliad i'w gynnig
•    Helpu yng Ngŵyl Theatr Stryd y Sblash Mawr drwy gynorthwyo â pherfformiadau, helpu'r cyhoedd a gwneud yr ŵyl yn hygyrch i bawb

 

Ein nodau a'n gofynion

Rydym yn chwilio am bobl sydd:  
• Yn mwynhau cwrdd â phobl newydd 
• Yn hyderus wrth siarad a chynorthwyo aelodau o'r cyhoedd
• Yn mwynhau gweithio fel rhan o dîm
• Yn frwdfrydig am y celfyddydau 
• Yn falch ac yn gadarnhaol am ddinas Casnewydd

 

Pam gwirfoddoli?

Mae llawer o fanteision gwych i wirfoddoli yng Nglan yr Afon, gan gynnwys:
• Cwrdd â phobl newydd
• Bod yn rhan o dîm lleol o bobl frwdfrydig ac angerddol yng nghalon y ddinas
• Datblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau am y byd celfyddydol
• Ennill profiadau newydd
• Hybu eich CV drwy ennill sgiliau, hyfforddiant a chymwysterau newydd

 

Dod yn gwirfoddolwyr

Am fwy o wybodaeth am gyfleoedd gwirfoddoli yng Nglan yr Afon ffoniwch 01633 287695 neu e-bostiwch enquiries@newportlive.co.uk.

Cysylltu â Ni