RHEOLWR GWERTHIANNAU A MARCHNATA

 

Gradd 9 : £34,408 i £38,531 ynghyd â buddion

 

Mae Casnewydd Fyw yn ymddiriedolaeth elusennol sy'n gweithredu Theatr, Celfyddydau a Diwylliant, a Chwaraeon a Hamdden yn bennaf ar draws Dinas Casnewydd ond hefyd ymhellach i ffwrdd, ein gweledigaeth yw Ysbrydoli pobl i fod yn hapusach ac yn iachach.  

Mae Casnewydd Fyw yn gyfrifol am reoli a gweithredu Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon, Canolfan Casnewydd, y Ganolfan Byw'n Actif, y Ganolfan Gyswllt, a Phentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd, sy'n cynnwys y Ganolfan Tennis a Nofio Ranbarthol, Felodrom Geraint Thomas a Stadiwm Casnewydd. 

Mae Casnewydd Fyw hefyd yn ymgysylltu â nifer o bartneriaid i greu, datblygu a chyflwyno rhaglen arloesol o Raglenni Datblygu Celfyddydau a Chwaraeon Cymunedol a Lles ledled y gymuned ac ardaloedd lle rydym yn darparu gwasanaethau.

Wrth i Casnewydd Fyw symud i gam nesaf ei ddatblygiad a chyda chyfleuster newydd sbon ar y gorwel, mae'n amser cyffrous i ymuno â'r ymddiriedolaeth elusennol.  Rydym yn awyddus i ddatblygu pobl sy'n cymryd perchnogaeth o gyflawni ac sy'n angerddol am gyflawni'r lefel uchaf bosibl o berfformiad ym mhopeth a wnânt – pobl sy'n agored i syniadau, i gydweithio, i heriau ac i ffyrdd newydd o feddwl a gweithio.

Oherwydd dyrchafiad mewnol, mae Casnewydd Fyw yn awyddus i recriwtio person eithriadol i’r swydd Rheolwr Gwerthiannau a Marchnata, sy'n rhan allweddol o'r gwaith o greu, datblygu a chyflwyno strategaeth Farchnata, Gwerthiannau, Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu graidd ar gyfer y busnes cyfan, mae'r swydd yn allweddol i lwyddiant parhaus yr elusen.  

Bydd y Rheolwr Gwerthiannau a Marchnata yn cymryd cyfrifoldeb uniongyrchol am y tîm marchnata, ochr yn ochr â chynlluniau gwerthiannau a marchnata ar draws yr ymddiriedolaeth, tra'n cydweithio ar draws y busnes cyfan i sicrhau bod strategaethau gwerthiannau a marchnata tactegol sy'n cael eu gyrru gan ganlyniadau yn llwyddiannus, drwy gynllunio, actifadu, gweithredu a mesur trylwyr ac effeithiol, yr holl ffactorau llwyddiant allweddol sy'n llywio'r swyddogaeth gwerthiannau a marchnata. 

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus o leiaf 3 blynedd o brofiad perthnasol mewn amgylchedd gwerthu a marchnata masnachol.   Cymhwyster marchnata uwch cydnabyddedig, profiad o weithio gyda'r cyfryngau, cynllunio strategol, llwyfannau digidol, e-farchnata ac amgylcheddau cyfryngau cymdeithasol, bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus gyflawni'n gyson ar werthiannau a thargedau yn erbyn cyllidebau. 

Am drafodaeth anffurfiol ynglŷn â'r swydd gallwch gysylltu â’r Cyfarwyddwr Datblygu Busnes, Andrea Ovey drwy e-bost andrea.ovey@newportlive.co.uk

 

Proses Ymgeisio

Gallwch lawrlwytho ffurflen gais a disgrifiad swydd o wefan Casnewydd Fyw www.casnewyddfyw.co.uk neu fel arall, maent ar gael trwy wneud cais mewn e-bost i jobs@newportlive.co.uk

Dychwelwch y ffurflenni cais cyflawn i jobs@newportlive.co.uk

 

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Iau 31 Mawrth 2022 am 2pm                                                     

Cynllunnir cynnal cyfweliadau ar:  Dydd Mercher 20 a dydd Iau 21 Ebrill 2022

 

Disgrifiad Swydd

Ffurflen Gais