Pennaeth Theatr, y Celfyddydau a Diwylliant

 

Cyflog:  £43,217

A buddiannau

                                                                       

Sefydliad dielw ac elusen gofrestredig ydy Casnewydd Fyw, sy'n darparu gwasanaethau theatr, celfyddydau, chwaraeon, hamdden a diwylliannol yn Ninas Casnewydd ar draws lleoliadau ac yn y gymuned ehangach. Mae Casnewydd Fyw yn gweithredu un o'r lleoliadau celfyddydol mwyaf blaenllaw yn ne Cymru, Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon, ac maent bellach yn ceisio penodi Pennaeth Theatr, Celfyddydau a Diwylliant i arwain y gwasanaeth drwy'r cyfnod cyffrous sydd ar y gorwel.

Mae swydd y Pennaeth Theatr, Celfyddydau a Diwylliant yn hynod bwysig yng Nghasnewydd Fyw ac mae'n gofyn am ymgeisydd gyda lefel uchel o feddwl creadigol, arweinyddiaeth ragorol a sgiliau rheoli busnes ac sydd hefyd yn gallu rheoli llwyth gwaith amrywiol mewn amgylchedd prysur.  Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn hyrwyddwr diwylliannol gydag angerdd at y celfyddydau yn ogystal â phrofiad amlwg o arwain ac ysbrydoli tîm amrywiol, gan sicrhau bod rhaglen theatr, celfyddydau a diwylliannol Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon a  Chasnewydd Fyw yn gweithredu at y safonau uchaf posibl, yn gwneud y mwyaf o'r potensial ar draws pob rhan o'r celfyddydau ac yn ceisio ymgysylltu â phob cymuned ar draws y rhanbarth.

Mae Glan yr Afon yn chwarae rôl hanfodol wrth ddatblygu cynnig diwylliannol uchelgeisiol ac o safon uchel yng Nghasnewydd a’r cyffiniau. Mae’n cyflwyno rhaglen amrywiol draws gelfyddydol drwy gydol y flwyddyn, sy’n cynnwys digwyddiadau â ffocws mwy masnachol a gwaith arbrofol sy’n cymryd mwy o risg ac sy'n cynorthwyo datblygiad proffesiynol artistiaid sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru.

Ar hyn o bryd mae Glan yr Afon yn cael cymorth datblygu busnes drwy Raglen Gwydnwch Cyngor Celfyddydau Cymru ac mae hefyd yn datblygu Is-grŵp Celfyddydau a Diwylliant newydd ac amrywiol i wella a chefnogi Bwrdd Casnewydd Fyw i lunio a chefnogi'r strategaeth 3–5 mlynedd newydd ac sy’n datblygu ar gyfer Theatr, y Celfyddydau a Diwylliant Casnewydd Fyw, a fydd yn cyfuno â'r strategaeth ddiwylliannol ar gyfer Dinas Casnewydd.

Bydd y Pennaeth Theatr, Celfyddydau a Diwylliant yn arwain gweledigaeth artistig ar gyfer Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon, a fydd yn cynnwys Rhaglenni Ymgysylltu a Chyfranogi eang yn ogystal â pharhau i ddatblygu rhaglen eang o ddigwyddiadau â nod masnachol ac a arweinir yn artistig, gan arwain yn effeithiol y cyswllt ag ystod o randdeiliaid yn fewnol ac yn allanol yn allweddol. Bydd hyn yn allweddol i lwyddiant yn y rôl hon. 

 

Proses Ymgeisio

Gallwch lawrlwytho ffurflen gais a disgrifiad swydd o wefan Casnewydd Fyw www.casnewyddfyw.co.uk neu fel arall, maent ar gael trwy wneud cais drwy e-bost i jobs@newportlive.co.uk

Am drafodaeth anffurfiol ynglŷn â'r swydd gallwch gysylltu â Chyfarwyddwr Datblygu Busnes Casnewydd Fyw, Andrea Ovey ar 01633 656757 neu drwy andrea.ovey@newportlive.co.uk

Dychwelwch y ffurflenni cais cyflawn i jobs@newportlive.co.uk

 

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau:                                                          Dydd Llun 18 Hydref 2021, 12 hanner dydd

                                                                       

Cynhelir y cyfweliadau yn ystod yr wythnos sy’n cychwyn:               Ddydd Llun 1 Tachwedd 2021            

 

Disgrifiad Swydd

 

Ffurflen gais