Green Reflekt Banner

Reflekt: rhaglen theatr arloesol

Rhaglen Theatr a Chelfyddydau arloesol Theatr Glan yr Afon.

Mae Reflekt yn cynnwys gwaith datblygiadol, dawns gyfoes, dramâu dirdynnol, perfformiadau ynghylch pynciau llosg, comedi, a llawer mwy; ac mae’r cyfan yn anelu at ysgogi meddwl y gynulleidfa.

Gloved hands holding cardboard house

Canllawiau Rhaglennu Theatr Stiwdio

Os oes gennych ddarn o waith y credwch a allai weithio fel rhan o'n rhaglen, mae croeso i chi gysylltu â ni ar programming@newportlive.co.uk. Rheolir y cyfeiriad e-bost gan Leah Roberts, ein Rhaglennydd, a’n Cynhyrchydd Creadigol, Olivia Harris.

studio theatre seating

Trosolwg Technegol o’r Theatr Stiwdio


Mae gennym ddwy theatr yng Nglan yr afon. Y Theatr Stiwdio yw’r lleiaf a’r mwyaf agos atoch. Mae’r Stiwdio yn ofod theatr amlddefnydd gwych. Mae lle ynddi ar gyfer cynulleidfa o 128 mewn arddull theatr ar letem neu 100 yn arddull cabaret yn wastad ar y llawr. Mae opsiwn cael seddi ymwthiol neu ar ffurf cylch hefyd. Bydd y cynllun hwn yn lleihau capasiti felly bydd angen trafod gyda’r tîm cyn cytuno ar faint cynulleidfa.

 

Man stood at a bus stop in a grey hoodie.jpg

Cyd-gynhyrchiad

Mae ein tîm bob amser yn chwilio am gwmnïau i gydweithio a chyd-gynhyrchu â nhw.