Diweddariad Rhagfyr 2020

Oherwydd effaith y Coronafeirws ar y sector theatr a diwylliant, mae'n annhebygol ar hyn o bryd y byddwn yn gallu cychwyn unrhyw gyd-gynyrchiadau theatr fyw newydd tan dymor y gwanwyn 2022 ar y cynharaf. Y rheswm am hyn hefyd yw'r cylch cynllunio mae ei angen er mwyn i'r cydweithrediadau hyn ddigwydd. Ond byddem yn dal wrth ein boddau yn clywed gennych felly os hoffech gael sgwrs am brosiect yn y dyfodol, cysylltwch â ni yn programming@newportlive.co.uk

Cyd-gynhyrchiad

Mae ein tîm bob amser yn chwilio am gwmnïau i gydweithio a chyd-gynhyrchu â nhw. Yn gyffredinol, rydym yn cychwyn ar un cyd-gynhyrchiad ar raddfa stiwdio y tymor ac yn cynllunio'r rhain o leiaf 12 mis ymlaen llaw (Mae rhaglenni Glan yr Afon yn cael eu rhannu'n ddau dymor, Gwanwyn-Haf a Hydref-Gaeaf.)

Mae ein perthnasau cyd-gynhyrchu yn fwy tebygol o ddod o berthynas a adeiladwyd gydag artist neu gwmni dros amser, ond os oes gennych rywbeth y credwch y byddai gennym ddiddordeb ynddo, cysylltwch â ni ar programming@newportlive.co.uk