LTA Youth Start Kit Bundle

A yw eich plentyn erioed wedi codi raced? A yw’n 4-8 oed? Rhaglen Youth Start y Gymdeithas Tenis Lawnt (LTA) yw'r ffordd berffaith o'i gyflwyno i'r 'gêm hardd' mewn amgylchedd hwyliog a hamddenol.

Bydd tenis yn helpu eich plentyn i wella ei gydbwysedd, ei gyflymder a hyd yn oed ei allu i ganolbwyntio. Bydd eich plentyn hefyd yn dysgu am barch, gwaith tîm a chwarae teg wrth iddo ddatblygu ei sgiliau tenis.

Mae Rhaglen Youth Start y LTA yn gwrs i blant sy'n cynnwys 6 sesiwn o safon uchel am £29.99 y plentyn yn unig (yn ogystal â £5 am gostau postio).

Pan fyddwch yn cadw lle ar y cwrs, bydd bwndel cit Rhaglen Youth Start y LTA (a anfonir gan y LTA), sy'n cynnwys raced, set o beli, pâr o fandiau arddwrn a chrys-t wedi'i frandio yn cael ei anfon i’ch drws. (Noder: gall dyluniad y cit amrywio.)

Bydd ein hyfforddwyr hyfforddedig LTA yn sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau ar eu siwrnai yn y byd tenis mewn amgylchedd diogel a chynhwysol. 

Mae'r sesiynau hyn yn llawn egni ac yn darparu ar gyfer pob gallu.

Archebwch Nawr

 

Sesiynau

Dydd Mawrth, 20 Chwefror 2024 

  4 - 4:55pm

Canolfan Tennis Casnewydd 

Dydd Mawrth, 27 Chwefror 2024

  4 - 4:55pm

Canolfan Tennis Casnewydd

Dydd Mawrth, 5 Mawrth 2024

  4 - 4:55pm 

Canolfan Tennis Casnewydd

Dydd Mawrth, 12 Mawrth 2024

  4 - 4:55pm

Canolfan Tennis Casnewydd

Dydd Mawrth, 19 Mawrth 2024 

  4 - 4:55pm 

Canolfan Tennis Casnewydd

Dydd Mawrth, 26 Mawrth 2024 

  4 - 4:55pm

Canolfan Tennis Casnewydd

 

Sut i ddod o hyd i ni

Cynhelir sesiynau Rhaglen Youth Start y LTA dan do yng Nghanolfan Tenis Casnewydd.

Bydd yr hyfforddwr yn cwrdd â chi yn y Cwrtiau Tenis Dan Do yng Nghanolfan Tenis Casnewydd. Mae'r sesiynau'n para am 55 munud.

Cael Cyfarwyddiadau

Angen rhagor o wybodaeth?

Cysylltwch â Luke Difranco, Rheolwr Tenis Canolfan Tenis Casnewydd ar 01633 656757 neu e-bostiwch luke.difranco@newportlive.co.uk.