Yn dilyn ailagor canolfannau Casnewydd Fyw y mis diwethaf, bydd mwy o gyfleusterau a gwasanaethau hamdden yn dychwelyd ledled Casnewydd dros yr wythnosau nesaf. 

Yr wythnos hon mae beicio trac yn dychwelyd i Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas. Er bod Llywodraeth Cymru wedi caniatáu i feicwyr elît hyfforddi yn ystod cau'r felodrom, dyma'r cyfle cyntaf i feicwyr achrededig fynd yn ôl ar y trac. 

Bydd cymorth personol yn cael ei ddychwelyd ym mis Medi hefyd gan gynnwys 1 i 1 a rhaglenni; a chaiff pob gweithgaredd ei ddarparu gyda chanllawiau ymbellhau cymdeithasol ar waith i sicrhau diogelwch staff a chwsmeriaid. Mae hyfforddwyr ffitrwydd Casnewydd Fyw yn rhoi cymorth personol i aelodau gan gynnwys ffitrwydd digidol personol wedi'i deilwra i nodau'r cwsmer sydd wedi'i gynnwys yn eu pecyn aelodaeth heb godi tâl ychwanegol.

Mae'r sefydliad hefyd wedi cyflwyno Nofio i'r Teulu gyda theuluoedd â phlant iau yn gallu cadw rhan o'r pwll addysgu yn y Ganolfan Tennis a Nofio Ranbarthol at eu defnydd. Mae'r caffi yn y ganolfan hefyd wedi ailagor yn ddiweddar gyda byrbrydau, brechdanau a choffi Starbucks ar gael. 

Bydd y gwasanaethau hyn yn dychwelyd ochr yn ochr â dosbarthiadau ymarfer corff grŵp, campfeydd, gwersi nofio cyhoeddus, nofio a thennis, a llogi cyrtiau a ddychwelodd ym mis Awst ar draws y lleoliadau yng Nghasnewydd; Canolfan Casnewydd, Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas, y Ganolfan Tenis a Nofio Ranbarthol a'r Ganolfan Byw'n Actif

Er mwyn sicrhau diogelwch pawb ac i gefnogi gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu Iechyd Cyhoeddus Cymru, bydd yn ofynnol i bob cwsmer sy'n defnyddio gwasanaethau a chyfleusterau gael cerdyn Casnewydd Fyw, ac argymhellir iddynt archebu pob sesiwn ymlaen llaw drwy’r wefan neu drwy app Casnewydd Fyw. 

Mae Casnewydd Fyw wedi rhoi mesurau ar waith i sicrhau diogelwch cwsmeriaid gan gynnwys glanhau ychwanegol, ymbellhau cymdeithasol, lleihau nifer y defnyddwyr mewn adeiladau, adleoli campfeydd ac offer, wedi'u gosod o leiaf 2 fetr ar wahân, yn ogystal ag arwyddion a diheintio ychwanegol. Bydd yn ofynnol i gwsmeriaid ddilyn canllawiau Covid-19 ychwanegol sydd i'w gweld ar wefan Casnewydd Fyw. 

Dywedodd Steve Ward, Prif Weithredwr Casnewydd Fyw "Mae gweithgareddau corfforol yn hanfodol i iechyd a lles pobl, sy'n arbennig o bwysig yn ystod y cyfnod presennol. Mae ein timau'n parhau i weithio'n galed iawn i sicrhau y gallwn groesawu pobl yn ôl i'n canolfannau. Er bod Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yn aros ar gau, mae wedi bod yn wych gweld cynifer o bobl yn ôl yn ein cyfleusterau chwaraeon ac rydym wedi cael llawer iawn o adborth cadarnhaol am y mesurau diogelwch rydym wedi'u cyflwyno. Rydym yn gweithio i sicrhau ein bod yn dod â gweithgareddau'n ôl yn ofalus wrth alluogi pobl i ddychwelyd i'r gamp neu'r gweithgaredd y maent yn ei fwynhau ac mae'r gwasanaethau sy'n dychwelyd yr wythnos hon yn golygu y gallwn ddechrau croesawu beicwyr yn ôl yn ogystal â rhai o'n nofwyr ieuengaf a'u teuluoedd. Gallwn hefyd ddechrau cynnig cymorth wedi'i deilwra'n well i'n cwsmeriaid gyda'u nodau iechyd a lles, y gallent fod wedi'u colli wrth aros gartref, gan gynnwys cynlluniau ffitrwydd personol, sut i ymarfer yn ddiogel a ffyrdd newydd o hyfforddi. Rydym yn parhau i gael ein calonogi gan nifer y cwsmeriaid sy'n dychwelyd i Casnewydd Fyw, wrth i ni barhau i ymdrechu i ysbrydoli pobl i fyw bywyd mwy actif a bod yn hapusach ac yn iachach."