Cymryd rhan

 

Mae cymaint o ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan mewn prosiect yn Nglan yr Afon waeth beth yw eich oedran, eich gallu neu'ch profiad yn y celfyddydau.  
 
Os ydych yn athro neu'n arweinydd grŵp ac yn chwilio am ffyrdd y gall eich ysgol gymryd rhan yn y celfyddydau neu'r diwydiant creadigol ewch i adran Ysgolion y dudalen Ein Prosiectau, Rhaglenni a Mentrau.

 

Rhaglen Beirniaid Cymunedol Glan yr Afon

 

Yng Nglan yr Afon rydym yn credu’n gryf bod y sioeau, y perfformiadau, y ffilmiau a’r gweithgareddau i bawb o bob oedran. Rydym yn ceisio cynnal rhaglen amrywiol o weithgareddau bob tymor i sicrhau bod rhywbeth at ddant pawb.

Rydym hefyd yn deall, fodd bynnag, nad yw llawer o bobl yn credu bod y celfyddydau iddyn nhw - mae’n faes rhy ddiflas, rhy ddrud neu dydyn nhw ddim yn credu eu bod nhw o’r oedran iawn i ddod yma. Yng Nglan yr Afon rydym yn ymdrechu i newid hyn a dangos i bawb fod croeso iddyn nhw yma ac y cânt brofiad pleserus gyda ni.

Mae Beirniaid Cymunedol yn un o'r ffyrdd niferus y gallwch gymryd rhan yng Nglan yr Afon ac yn ein rhaglen. Os ydych yn unigolyn, yn rhan o grŵp cymunedol neu chwaraeon, yn gweithio gydag elusen neu os oes gennych grwp ysgol, gallwch wneud cais i fynychu sioe am ddim yn rhan o’n cynllun Beirniaid Cymunedol.

Gallwch wneud cais am docyn am ddim i unrhyw un o'n sioeau, ffilmiau neu weithdai a – lle y bo'n bosibl – byddwn yn gwneud lle i chi. Os na allwn gynnig tocynnau i chi i'r digwyddiad a'r dyddiad o'ch dewis, byddwn bob amser yn ceisio cynnig dewis arall addas i chi.

Y cyfan ry’n ni’n gofyn amdano’n gyfnewid yw adolygiad o'ch profiad; gallai fod yn fideo, adolygiad ysgrifenedig, darn o farddoniaeth neu waith celf. ‘Neith unrhyw beth y tro!  Byddem wedyn yn cynnwys eich adolygiad Beirniad Cymunedol ar ein gwefan, ar y cyfryngau cymdeithasol ac, os yn briodol, yn y negeseuon wythnosol a anfonwn allan.

I wneud cais i fod yn Feirniad Cymunedol ar gyfer unrhyw un o'r digwyddiadau sydd ar y gweill yng Nglan yr Afon, e-bostiwch marketing@newportlive.co.uk a rhowch wybod i ni pa ddigwyddiad yr hoffech ei fynychu, yn ogystal â'ch manylion cyswllt.

 

Profiad Gwaith 

Mae Glan yr Afon yn awyddus i gefnogi unrhyw un sydd wedi ymrwymo i ddilyn gyrfa mewn theatr neu o fewn sector y celfyddydau. Os ydych chi'n angerddol am weithio ym maes theatr, cerddoriaeth, dawns neu gelfyddydau cymunedol ac am gael profiad o weithio mewn canolfan theatr a chelfyddydau prysur a bywiog, gallai Glan yr Afon fod y lle i chi! 

Gallai tasgau gynnwys popeth o'r Swyddfa Docynnau a Blaen y Tŷ i Farchnata, Gwaith Technegol neu gynorthwyo tiwtoriaid i sefydlu a chynnal sesiynau gweithdy. 

Mae lleoliadau gwaith ar gael i fyfyrwyr o Flwyddyn 10 neu uwch, coleg neu brifysgol, a hyd yn oed unigolion sydd eisiau newid gyrfa. Rydym hefyd weithiau'n cynnig lleoliadau penodol ac interniaethau i raddedigion, cysylltwch â ni am argaeledd cyfredol. 
 
I drafod cyfleoedd profiad gwaith cysylltwch â'n Swyddog Addysg a chyfranogi Danielle Rowlands ar danielle.rowlands@newportlive.co.uk.