ADNODDAU CREADIGOL A DIWYLLIANNOL I'R GYMUNED 

Archwiliwch amrywiaeth o adnoddau celfyddydol, diwylliannol a chreadigol gan bartneriaid a sefydliadau lleol a fydd yn eich helpu i gadw mewn cysylltiad â'r celfyddydau a chreadigrwydd, gwella lles meddyliol a darparu hwyl a mwynhad. 

ARCHWILIO'R HWB  

 

BYDDWCH YN GREADIGOL GYDA RHAI O'N PARTNERIAID GWYCH YN Y GYMUNED SY’N CAEL LLWYFAN ISOD:

 

Naz creating something arty

Art Clwb

Mae Naz o Ziba Creative wedi bod yn diddanu pob oedran ac yn amlygu eu hochr greadigol gyda'i sianel YouTube yn llawn prosiectau crefftus syml a hwyliog o lusernau i anifeiliaid sanau, adar papur i flodau’r enfys.

Pixelated head shot

The Jury | Y Rheithgor

Wedi'i greu yn ystod y cyfnod clo, mae Y Rheithgor yn sioe theatr ddigidol ryngweithiol newydd sbon wedi'i hysgrifennu a'i chreu gan Theatr Ieuenctid HATCH MKE (16+).

Yn y ffurf ddigidol hon ar ddirgelwch llofruddiaeth clasurol, rydych chi'n gyfrifol am ddatrys llofruddiaeth Jimmy, ond o blith saith o westeion parti tŷ posibl sydd dan amheuaeth, ni fydd yn dasg hawdd.

Text graphic for 'Happenus'

Happenus

Mae Happenus yn drioleg o ddigwyddiadau a chyfranogiadau gydag artistiaid lleol a chydweithredwyr cymunedol, a gydlynir gan y Tin Shed Theatre Company.
 
Mae Happenus yn gysyniad sy'n edrych ar sut rydym yn ystyried, yn cysylltu ac yn rhyngweithio â'n cartrefi a'n dinasoedd. Mae'n ceisio gofyn cwestiynau ac yn herio canfyddiadau drwy ryngweithio ac addasu lle a gofod. Y gweladwy anweladwy. 

Right Now Online Theatre Fest Promo Image

YMLAEN NAWR Gŵyl Theatr Ar-lein

"Mae YMLAEN NAWR yn fynegiant o frys. Oherwydd nad yw theatr wedi ei rhewi dros dro yn aros i ddigwydd rywle yn y dyfodol agos. Mae'n fyw ond dim ond na ellir ei brofi’n gorfforol. Mae yma nawr." 

Drwy gydol mis Tachwedd, cefnogodd Le Public Space a Chanolfan Glanyrafon bedwar artist unigol i ddatblygu a chreu gwaith perfformio newydd yn The Venue yn Le Pub.

ARCHWILIO'R HWB

Canfod mwy o weithgareddau, sefydliadau ac adnoddau celfyddydol a chreadigol yn Hwb y Celfyddydau!

ARCHWILIO
Arts Council Wales logo

Mae'r Hyb wedi ei wneud yn bosibl diolch i gyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru.