tenis i blant
Mae Canolfan Denis Casnewydd yn cynnal rhaglen tenis gynhwysfawr i blant rhwng 2 ½ ac 16 oed.

Mae gennym dîm o hyfforddwyr cymwysedig gan yr LTA gyda blynyddoedd lawer o brofiad a all eich hyfforddi o lefel dechreuwyr i’r lefel genedlaethol.
Mae crysau T a hwdis Tenis Casnewydd ac offer arall ar gael o’r dderbynfa yn y Ganolfan Tenis a Nofio Ranbarthol.

Tenis i Blant Bach
Wrth i’ch plant bach baratoi ar gyfer y byd mawr, bydd Tenis i Blant Bach yn codi hyder a hunan-barch eich plentyn mewn amgylchedd hwyliog a diogel.
Yn llawn gweithgareddau, ymarferion a gemau hwyliog bydd eich plentyn yn datblygu ei allu corfforol o ran Ystwythder, Cydbwysedd a Chydsymud yn ogystal â thechnegau tenis sylfaenol.
Dim Ar Gael Ar Hyn O Bryd

Tenis Iau
Y cyflwyniad perffaith i’r gamp ar gyfer plant rhwng 5 a 10 oed. Mae gan Tenis Iau gyrtiau, rhwydi a racedi llai eu maint a pheli sy’n bownsio llai, y cyflwyniad perffaith i denis!
Mae’r rhaglen Tenis Iau wedi’i rhannu’n dair ystod oedran:
• Iau Coch (5-8 oed)
• Iau Oren (8-9 oed)
• Iau Gwyrdd (10 oed)
Bydd y dull hwn o deilwra yn caniatáu i’ch plentyn ddarganfod y gamp a gwella ei sgiliau mewn modd hwyliog a chyffrous ac yn bwysicaf oll, cael hwyl ar y cwrt.
Gallwch wirio cynnydd eich plentyn unrhyw bryd gan ddefnyddio’r Porth Cartref.
Ffoniwch 01633 656757 neu ewch i’r dderbynfa i gadw lle
Dim Ar Gael Ar Hyn O Bryd
Tenis i’r Arddegau
Mae Tenis i’r Arddegau yn ffordd wych i’ch plentyn hogi sgiliau, gwella ei siots a datblygu
agweddau mwy technegol eu gêm
Mae’r gwersi wedi eu seilio ar batrwm gêm a bydd chwaraewyr yn cael cyfle i gymryd rhan
mewn twrnameintiau trwy gydol y flwyddyn.
Ffoniwch 01633 656757 neu ewch i’r dderbynfa i gadw lle
Dim Ar Gael Ar Hyn O Bryd
LTA Tenis Ieuenctid i Blant
A yw eich plentyn erioed wedi codi raced? A ydyw’n 5-10 mlwydd oed? Os felly, rhaglen LTA Tenis Ieuenctid i Blant yw'r ffordd berffaith o'u cyflwyno i'r 'gêm hardd'.
Bydd tennis yn helpu eich plentyn i wella ei gydbwysedd, ei gyflymder a hyd yn oed ei allu i ganolbwyntio. Bydd eich plentyn hefyd yn dysgu am barch, gwaith tîm a chwarae teg wrth iddo ddatblygu ei sgiliau tennis.
Dim Ar Gael Ar Hyn O BrydSesiynau Tenis i Blant
Os oes gennych gyfrif ar-lein gallwch archebu sesiynau ar-lein gan ddefnyddio'r dolenni isod.
Neu gallwch ein ffonio ar 01633 656757 neu anfon e-bost atom yn enquiries@newportlive.co.uk.