Amserlen Nofio i’r Cyhoedd

Rydym yn cynnig sesiynau nofio i’r cyhoedd yn ein byllau. P'un a oes gennych ddiddordeb mewn chwarae mewn dŵr bas, nofio hyd y pwll neu hyfforddi ar gyfer cystadleuaeth, gallwch nofio er hwyl a ffitrwydd ar amser ac mewn lleoliad sy'n addas i chi!

Wrth nofio yn un o byllau Casnewydd Fyw, bydd angen i chi ddilyn ein canllawiau diogelwch a chymarebau plant i oedolion; gellir gweld y rhain yma.

ein cwestiynau cyffredin am nofio

 

Nofio Lôn

Mae nofio lôn ar gael ar hyn o bryd yn y Ganolfan Byw'n Actif a'r Ganolfan Tenis a Nofio Ranbarthol.

Bydd angen i chi neilltuo lôn sy’n berthnasol i’ch cyflymder nofio gan na fyddwch yn gallu goddiweddyd.

Bydd angen i gwsmeriaid gyrraedd yn barod i nofio gan na fydd loceri na chytiau newid ar gael cyn nac ar ôl sesiynau.

Gall Aelodau drefnu sesiynau nofio 8 diwrnod o flaen llaw a gall defnyddwyr Talu a Chwarae drefnu 4 diwrnod o flaen llaw.

 

Archebwch Nawr

Nofio Hamdden

Mae nofio mewn lonydd ar gael yn y Ganolfan Byw’n Actif a phrif bwll y Ganolfan Tennis a Nofio Ranbarthol ar hyn o bryd. 

Mae nofio hamdden yn sesiwn nofio gyhoeddus agored heb unrhyw lonydd. 

Bydd angen i gwsmeriaid gyrraedd yn barod i nofio gan na fydd loceri na chytiau newid ar gael cyn nac ar ôl sesiynau.

Gall Aelodau drefnu sesiynau nofio 8 diwrnod o flaen llaw a gall defnyddwyr Talu a Chwarae drefnu 4 diwrnod o flaen llaw.

Archebwch Nawr

Nofio am Ddim – Sesiynau Sblasio Agored

Mae Sesiynau Sblasio Agored ar gael mewn 2 bwll yn y Ganolfan Tenis a Nofio Ranbarthol a’r Ganolfan Byw’n Actif. 

Mae rhaffau lôn wedi'u tynnu i alluogi plant i gael hwyl yn sblasio, symud a nofio o gwmpas i'w hannog i archwilio a meithrin hyder yn y dŵr.

1 metr yw isafswm dyfnder y dŵr – mae angen i blant allu sefyll gyda'u pennau uwchben y dŵr yn y dyfnder hwn.

Edrychwch ar Sblasio Agored ar y dudalen Beth sydd Ymlaen  i weld pa sesiynau sydd ar gael.

Gall plant dan 17 oed gadw lle ar sesiynau Sblasio Agored am ddim. I fod yn gymwys mae'n rhaid i chi feddu ar gerdyn nofio am ddim. Gellir lawrlwytho ffurflenni cais yma y gellir eu dychwelyd i unrhyw leoliad Casnewydd Fyw i gael cerdyn.

Gall y sawl sy’n Talu a Chwarae gadw lle ar y sesiynau hyn am £4.35 y pen.

Gall pobl hŷn drefnu lle ar y sesiynau hyn am £2.60 fesul sesiwn.

A fyddech cystal â chyrraedd yn barod i nofio, bydd ystafelloedd newid a chawodydd ar gael ar ddiwedd eich sesiwn.

Mae canllawiau goruchwylio plant.

Archebwch Nawr

Nofio i Deuluoedd

Mae ein sesiwn nofio hwyliog i'r teulu yn berffaith ar gyfer teuluoedd â phlant iau sy'n awyddus i fwynhau'r pwll, ymarfer nofio a chael hwyl mewn amgylchedd cyfeillgar a diogel. Mae ein sesiynau yn ystod yr wythnos yn berffaith i blant bach a phlant cyn ysgol!

Caiff teuluoedd (hyd at 5 o bobl) chwarter o’r Pwll Addysgu yn y Ganolfan Tenis a Nofio Ranbarthol iddyn nhw eu hunain am 1 awr. 

Gellir archebu sesiynau nofio i deuluoedd wythnos ymlaen llaw ac nid ydynt yn addas i bartïon.

Edrychwch am Nofio i Deuluoedd ar ein tudalen Beth Sydd Ymalen i weld pa sesiynau sydd ar gael.

Mae’r sesiynau’n costio £4.35 i oedolion, £2.60 i bobl hŷn, £2.20 i blant, AM DDIM i blant bach dan 4 oed

Mae canllawiau goruchwylio plant yn berthnasol i bob sesiwn nofio i'r teulu.

Bydd pob teulu sy’n dod i sesiwn yn cael ystafell newid ar ôl iddynt nofio. 

Archebwch Nawr

NOFIO AM DDIM YNG NGHASNEWYDD FYW

Mae nofio am ddim yn caniatáu i blant 8 – 16 oed, pobl dros 60 oed, aelodau o'r lluoedd arfog a chyn-filwyr nofio am ddim ar adegau penodol yn y Ganolfan Tennis a Nofio Ranbarthol a'r Ganolfan Byw’n Actif.

Mwy o wybodaeth