RIVERFRONT


Ynglŷn â’r lleoliad hwn 

Canolfan theatr a chelfyddydau fywiog wedi'i leoli yng nghanol Dinas Casnewydd sy'n dod â chynifer o bobl â phosibl i gysylltiad â'r celfyddydau a chreadigrwydd, gyda pherfformiadau proffesiynol, dangosiadau ffilm a gweithdai.

Glan yr Afon yw’r unig ganolfan theatr a chelfyddydol gyflwynol broffesiynol yng Nghasnewydd ac mae ganddi ddau le theatr, oriel gelf, stiwdio ddawns, stiwdio recordio, ystafelloedd gweithdy, ystafell gynadledda a chaffi trwyddedig. 

gweld beth sy'n dod i fyny ac archebu tocynnau

Cyfeiriad

Glan yr Afon
Ffordd y Brenin
Casnewydd
NP20 1HG 

 

Hygyrchedd

Cyfarwyddiadau a pharcio

Oriau Agor

Dydd Llun i Ddydd Iau
9am – 4pm

Dydd Gwener
9am - 10.30pm

Dydd Sadwrn
9am - 4pm

Oriau Agor y Canolfan

yr hyn a gynigiwn

blue lit stage with prince charming and cinderella in panto performance

Perfformiadau

Edrychwch ar yr amrywiaeth o sioeau a digwyddiadau a gynhelir ar hyn o bryd yng Nglan yr Afon gan gynnwys cerddoriaeth fyw, drama, comedi, dawns, opera a mwy. 

young girl pointing at a cinema screen holding popcorn

Sinema

Ffilmiau sy’n haeddu sylw yng Nghanolfan Glan yr Afon! Trwy gydol y tymor bydd y rhaglen sinema yn cyflwyno’r goreuon i Gasnewydd o ran ffilmiau teuluol, drama, comedi, tŷ celf a ffilmiau dogfen am gyn lleied â £3. 

middle aged woman enjoying a dance class

Gweithdai a Dosbarthiadau

Rydym yn cynnig ystod amrywiol o weithdai a dosbarthiadau yn Glan yr Afon. Archwiliwch y gweithdai rydym yn eu cynnal yr Hydref hwn.

Recording Studio Control Room.JPG

Stiwdio Recordio

Mae C.O.B.R.A. Music Studios wedi'i leoli yn Theatr Glan yr Afon. Sefydlwyd C.O.B.R.A. Music Studios yn 2017 fel cwmni recordio ar leoliad yn unig, gan arbenigo mewn recordio ensemble mawr. Yn 2019, tyfodd y galw ar gyfer Ensemble Llai a Recordio Unigol - a welodd C.O.B.R.A. Music Studios yn agor ei safle stiwdio cyntaf.

Group of people in suits stood laughing and smiling

Llogi Lle

Gyda dwy theatr, oriel gelf, stiwdio ddawns, ystafell gynadledda, tri gweithdy/ystafell ddigwyddiadau, bar, caffi ac ardaloedd cyntedd, gall Glan yr Afon gynnig lleoliad dramatig a chofiadwy ar gyfer cynadleddau, digwyddiadau, achlysuron corfforaethol a mwy.

 

Caffi

Mae Caffi Glan yr Afon, ar ei newydd wedd, yn fan delfrydol i gwrdd â ffrindiau neu gynnal cyfarfod busnes anffurfiol. Gallwch fwynhau paned o goffi a chacen yn hamddenol, neu wydraid o rywbeth cryfach os dymunwch, gyda golygfeydd dros Afon Wysg.

Mwy o wybodaeth

Oriel Gelf

Mae Oriel Gelf Glan yr Afon yn cynnal amrywiaeth o arddangosfeydd, o ffotograffiaeth i ffilm, tecstilau i graffeg, celfyddyd gain i gelfyddyd perfformio. Mae Oriel Glan yr Afon yn symud i'r ardal balconi i fyny'r grisiau yr hydref hwn, lle bydd amrywiaeth o waith celf yn cael ei harddangos.

 

Mwy o wybodaeth

Datblygu Celfyddydau Cymunedol

Nod y Tîm Datblygu Celfyddydau Cymunedol yw cynnig cyfleoedd creadigol i bobl o bob oed o fewn cymunedau niferus Casnewydd. Maent yn cydlynu gwahanol brojectau, digwyddiadau, gweithgareddau a gweithdai celfyddydol ledled Casnewydd, gan gynnwys drama, dawns, celf a chrefft, cerddoriaeth a mwy.

mwy o wybodaeth

Cymorth i Artistiaid

Mae pob agwedd ar ein rhaglen yn cynnwys gweithio gydag artistiaid mewn rhyw ffordd, felly mae’n bwysig i ni ein bod yn rhoi blaenoriaeth i gymorth a datblygu sy’n hygyrch i artistiaid a phobl greadigol sy’n gweithio yn y sector creadigol a diwylliannol yng Nghymru. 

Mwy o Wybodaeth

Pink logo with bilingual 'breastfeeding welcome' text    Mae Glan yr Afon yn cefnogi’r cynllun Croesewir Bwydo ar y Fron.

Mae’r cynllun yn annog sefydliadau sydd ag adeiladau sy’n agored i’r cyhoedd yng Nghasnewydd er mwyn cefnogi bwydo ar y fron trwy fod yn groesawgar, yn gyfeillgar ac yn gefnogol. Rydym wedi bod mewn sesiwn ymwybyddiaeth bwydo ar y fron ac rydym wedi ymrwymo i fod yn lleoliad Croesewir Bwydo ar y Fron.

 

ARCHEBWCH NAWR

Os ydych yn aelod gallwch archebu ar-lein gan ddefnyddio'r dolenni isod. Neu gallwch ein ffonio ar 01633 656757 neu anfon e-bost atom yn customerservice@newportlive.co.uk.

Newyddion a Digwyddiadau

30/11/2023

Nadolig Pawen: Cyhoeddi Pantomeim 2024/25 Glan yr Afon

Darllen mwy
24/11/2023

Cynigion Gwener Du 2023

Darllen mwy
16/11/2023

Ymarferion ar gyfer Beauty and the Beast yn Dechrau, gan Ychwanegu Ychydig o Hud y Panto i Theatr Glan yr Afon

Darllen mwy