Gwyliau a Digwyddiadau

Mae Glan yr Afon yn cynnal nifer o wyliau a digwyddiadau yn yr adeilad ac ar draws dinas Casnewydd drwy gydol y flwyddyn. Ymhlith y digwyddiadau blynyddol pwysig mae dathliadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ym mis Mawrth, y Sblash Mawr ym mis Gorffennaf a Chelf ar y Bryn ym mis Tachwedd. 

Mae Glan yr Afon hefyd wedi cynnal digwyddiadau i Ŵyl Ffilmiau WOW, Mis Hanes Pobl Dduon a Chasnewydd yn Codi.

Big Splash Dandyism.jpg

Sblash Mawr

Y Sblash Mawr yw hoff ŵyl theatr stryd a chelfyddydau Casnewydd a gynhelir bob blwyddyn ym mis Gorffennaf, ychydig cyn gwyliau’r haf. Mae’r ŵyl yn cael ei chynnal yng Nglan yr Afon, sy’n cael ei droi yn hyb teuluol, ac mae hefyd yn gweddnewid strydoedd y ddinas yn llwyfan awyr agored enfawr.

Bydd y Sblash Mawr yn dychwelyd ar gyfer 2023 ddydd Sadwrn 22 a dydd Sul 23 Gorffennaf. Bydd mwy o wybodaeth am yr ŵyl yn cael ei rhyddhau'n fuan iawn!

Windrush film festival 2023 poster

Gŵyl Ffilm Caribïaidd Windrush

Mae Gŵyl Ffilm Brydeinig Caribïaidd Windrush yn dychwelyd i Theatr Glan yr Afon ym mis Mehefin. Dan sylw yn yr ŵyl yn 2023 fydd y berthynas gymhleth rhwng y sgrin fawr ac ymfudwyr Windrush o'r Gymanwlad, trwy ddangos ffilmiau o 75 mlynedd o Sinema gan Bobl Ddu ym Mhrydain.

Three ladies smiling, one in IWD tshirt

Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yng Nglan yr Afon

Bob mis Mawrth rydyn ni’n dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yng Nglan yr Afon gyda pherfformiadau campus a sesiynau blasu am ddim, oll â ffocws ar fenywod. 

Table with sewing machine and bunting

Celf ar y Bryn

Mae Celf ar y Bryn Casnewydd yn benwythnos o gelf a chreadigrwydd ar ochr orllewinol Casnewydd, yn cynnwys tai agored, digwyddiadau ac arddangosfeydd. Dros y penwythnos mae Glan yr Afon yn cael ei drawsnewid yn farchnad grefftau fywiog sy'n gwerthu nwyddau gwych gan amryw o artistiaid lleol.

Gwyl Newydd 2022

Gwyl Newydd

Gŵyl Celf a Diwylliant Cymraeg Casnewydd

Mae'n ŵyl i'r teulu i gyd - o'r ieuengaf i'r rhai sy’n ifanc yn eu hysbryd! Mae’n gyfle i glywed a defnyddio’r Gymraeg mewn amgylchedd hwyl wrth fwynhau cerddoriaeth, crefftau, stondinau, gweithdai a llawer mwy!

Cymryd rhan

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan yn un o'n gwyliau neu ddigwyddiadau fel gwirfoddolwr neu berfformiwr, mynnwch gip ar ein hadran Celfyddydau Cymunedol.

Mwy o wybodaeth