teuluoedd a phlant

Mae Glan yr Afon yn lleoliad sy'n ystyriol o deuluoedd ac rydym am sicrhau ei fod mor hawdd a di-straen â phosibl i chi a'ch teulu ymweld â ni!

Gallwch ddod â'r teulu oll i ddewis eang o ddigwyddiadau yn Nglan yr Afon gan gynnwys sioeau teuluol yn y theatr, y sinema, dangosiadau ffilm cyfforddus ac amrywiaeth o weithdai a gweithgareddau hanner tymor. Mwynhewch sioe fyw gyda'ch gilydd, gadewch i'ch dychymyg gymryd drosodd mewn gweithdy neu anogwch ochr greadigol eich plant yn ystod ymweliad â Glan yr Afon.

 

adults and children performing on a stage in cinderella panto

Costyngiadau tocynnau teulu

Mae gostyngiadau tocynnau teulu ar gael ar rai sioeau theatr gan gynnwys panto, ac mae tocynnau ar gyfer sgriniadau ffilm addas i deuluoedd yn dechrau o gyn lleied â £3. Gall babanod a rhai bach dan 2 oed ddod i eistedd ar lin oedolyn am ddim. 

Father clapping with young child

Gweithgareddau sy’n Addas i Fabis

Mae gennym ni weithgareddau a pherfformiadau sy’n addas i hyd yn oed aelodau ieuengaf y teulu yng Nghanolfan Glan yr Afon. Mae gennym ddangosiadau ffilm addas i fabis yn y sinema,  For Crying Out Loud, a chlybiau comedi yn ystod y dydd,  Aftermirth sy’n cynnwys comediwyr enwog sy’n malio dim os oes rhai bychain yn llefain neu’n gwingo.
 

Mae ein gweithdy hefyd yn cynnwys  Cerddoriaeth a Symud Hubble gweithdy cyn oedran ysgol sy’n hwyl ac yn fywiog i bob oedran a gallu o fabis tua 6 wythnos i blant 5 oed.

Youth theatre.JPG

Gweithdai

Rydym yn cynnig ystod o weithdai ar gyfer pobl ifanc yng Nghanolfan Glan yr Afon, yn cynnwys sesiynau Cerddoriaeth a Symud i blant dan 5 a sesiynau Theatr Ieuenctid o 5 i 17 oed.

a young child colouring with pencils

Gweithgareddau Gwyliau

Rydyn ni’n cynnig ystod wych o weithgareddau i blant o bob oedran yn ystod gwyliau'r ysgol. Gweld beth sy'n digwydd dros y gwyliau ysgol nesaf isod.

Family Arts Standards logo.jpg

Mae Glan yr Afon yn falch o fod yn aelod o'r Safon Gelfyddydol Deuluol, nod ansawdd cydnabyddedig ledled y DU sy'n dangos rhagoriaeth mewn darpariaeth deuluol. Dysgwch fwy amdano yma: www.familyartsstandards.com