clybiau dŵr

Rydym yn cynnig ystod wych o glybiau campau dŵr y gallwch roi cynnig arnyn nhw! Beth am roi cynnig ar ganŵio, neu sesiynau gyda Chlwb Hoci Tanddwr Caerdydd a Chasnewydd

Clwb Hoci Tanddwr Caerdydd a Chasnewydd

Chwaraeir gyda batiau a chnap ar waelod y pwll, wrth wisgo offer snorclo a dal eich anadl. Mae clwb hoci tanddwr Caerdydd a Chasnewydd yn dîm cymysg sydd wastad yn chwilio am chwaraewyr newydd sydd â diddordeb mewn rhoi cynnig ar y gamp heriol yma.

Ewch i'r Wefan

Clwb Canŵio Croesyceiliog

Tyfodd Clwb Canŵio Croesyceiliog (CCC) o Glwb Ieuenctid Ysgol Uwchradd Croesyceiliog lle gwnaeth y disgyblion, gyda chymorth staff a rhieni, eu canŵau eu hunain mewn dosbarthiadau nos a phenwythnos a gynhelir gan Alan Baker.

 

Ewch i'r Wefan

Clwb Nofio a Pholo Dŵr Dinas Casnewydd

Clwb nofio cystadleuol sy'n aelod o Nofio Cymru yw Clwb Nofio a Pholo Dŵr Dinas Casnewydd.

Ewch i'r Wefan

N.E.W.T -Clwb Triathlon Casnewydd a Dwyrain Cymru

Ffurfiwyd Triathlon Casnewydd Dwyrain Cymru (NEWT) yn 2006 yn dilyn cwblhau Pwll Rhanbarthol Dwyrain Cymru, ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd (NISV). Sefydlwyd y clwb gan Kelly Gaffney, Gareth Hall a Rich Davies.

Ewch i'r Wefan

Clwb Deifio Cymru

Dysgwch i sgwba-blymio yn yr unig ganolfan ddeifio PADI 5-seren yn y De.  P'un a ydych chi'n deifio am hwyl, ar eich gwyliau, neu i ddatblygu eich gyrfa, gwnewch hynny yng Nghanolfan Sgwba-blymio orau Cymru yn 2020.

 

Tudalen Facebook