Oherwydd yr argyfwng coronafeirws presennol, mae lleoliadau dan do Casnewydd Fyw yn parhau i fod ar gau i'r cyhoedd nes y cyhoeddir yn wahanol. Er bod campfeydd, canolfannau hamdden a phyllau nofio wedi cael agor yn Lloegr ers 25 Gorffennaf, nid yw hyn yn berthnasol i Gymru ac rydym yn aros am ddiweddariad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â phryd y bydd hawl gennym i’w hail-agor. Hoffem ddiolch i'n holl gwsmeriaid am y negeseuon o gefnogaeth a'ch dealltwriaeth yn ystod yr amser digyffelyb hwn.  

Isod, ceir diweddariad ar ein gwasanaethau. 

Gwasanaethau a gynhelir ar hyn o bryd

Yn dilyn cyhoeddiad diweddaraf Llywodraeth Cymru, mae sesiynau awyr agored cyfyngedig bellach ar gael. Mae’r rhain yn cynnwys:

Mae modd archebu ein cyrtiau tenis awyr agored bellach

Mwy o wybodaeth

Mae amrywiaeth o ddosbarthiadau awyr agored gan gynnwys Ioga, Pilates a Zumba bellach ar gael

Mwy o wybodaeth

Mae'r holl ddosbarthiadau a gwasanaethau eraill gan gynnwys ein holl gyfleusterau dan do yn parhau i fod ar gau i'r cyhoedd.  

Eich Manylion Cyswllt

Er mwyn i ni allu cysylltu â chi ynglŷn â'ch aelodaeth, archebu, tocynnau ac ailagor, sicrhewch fod eich manylion cyswllt yn gyfredol.  Gallwch wneud hyn drwy ddefnyddio'r dolenni isod; 

Tocynnau theatr neu archebion yn Theatr Glan yr Afon


Chwaraeon neu archebu gweithgareddau

 

Aelodaeth yn cynnwys Rhaglen Nofio a Thenis Integredig

Os ydych yn aelod o Casnewydd Fyw, cafodd yr aelodaeth honno ei rhewi'n awtomatig o'r diwrnod y caeon ni. Mae hyn yn berthnasol i aelodau misol, tymor penodol a blynyddol. Er bod dosbarthiadau a chyrtiau awyr agored bellach ar gael, Talu a Chwarae yn unig yw'r rhain ac mae aelodaeth pobl yn dal wedi'i rhewi oherwydd ein cynnig cyfyngedig. 

Ni fyddwn yn casglu unrhyw ddebydau uniongyrchol yn ystod y cyfnod y byddwn yn gorfod bod ar gau a byddwn yn eich diweddaru cyn i unrhyw newid ddigwydd.  Pan fyddwn mewn sefyllfa i ailagor ein cyfleusterau ac i ddadrewi aelodaeth pobl, os ydych yn hunan-warchod neu’n amharod i ddychwelyd i wneud ymarfer corff, bydd gennych ddewis i rewi eich aelodaeth nes eich bod yn barod i ddychwelyd.
 

Gwersi Nofio 

Mae pob gwers nofio oedd i fod i ddigwydd ar ôl i ni gau yn parhau wedi eu rhewi. Bydd credydau cyfredol yn parhau i fod yn eu lle tan i ni allu ailafael yn y gwersi.  I'r rhai ohonoch sydd â debyd uniongyrchol ar gyfer gwersi nofio, nid oes angen i chi gymryd unrhyw gamau.  Ni fyddwn yn casglu unrhyw ddebydau uniongyrchol yn ystod y cyfnod y byddwn ar gau. Unwaith y byddwn yn gallu ailagor byddwn yn eich hysbysu am y prosesau ail-gychwyn a phryd y byddwn yn gallu eich croesawu yn ôl ac ail-ddechrau eich gwersi nofio gyda ni.

Archebion a Digwyddiadau a Drefnwyd Ymlaen Llaw

Bydd un o'n tîm yn cysylltu ag unrhyw gwsmeriaid sydd wedi archebu gweithgareddau neu sesiynau ymlaen llaw yn ein holl leoliadau. Gofynnwn i gwsmeriaid fod yn amyneddgar gyda ni yn ystod y cyfnod hwn gan fod gennym niferoedd mawr iawn i ddelio â nhw, gweithlu llai a mynediad cyfyngedig i'n systemau. 

Perfformiadau yn Theatr Glan yr Afon

O ran y perfformiadau hyd at mis Awst, rydym wedi cysylltu â'r rhan fwyaf o'n cwsmeriaid drwy e-bost a dros y ffôn i roi diweddariadau iddynt ar eu dewisiadau o ran tocynnau, ond mae manylion rhai cwsmeriaid sydd gennym naill ai'n anghywir neu’n hen. Os nad ydych wedi clywed oddi wrthym eto, e-bostiwch  enquiries@newportlive.co.uk 

Sioeau wedi eu haildrefnu

Mae'r sioeau isod wedi'u haildrefnu. Os ydych wedi archebu tocynnau ar gyfer unrhyw un neu rai o'r digwyddiadau hyn, byddwn yn trosglwyddo tocynnau yn awtomatig i'r dyddiad newydd a bydd eich tocynnau yn parhau'n ddilys ac ni fydd eich rhifau sedd yn newid. Nodwch y dyddiad newydd (gallwch ei ysgrifennu ar eich tocynnau os oes rhai gennych eisoes). Os na allwch fynd ar y dyddiad hwn, byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Ar hyn o bryd mae'r theatr yn dal ar gau, sy'n golygu na allwn bostio tocynnau ar gyfer unrhyw rai o'n sioeau yn y dyfodol.

  • A Night of Queen with the Bohemians – 15 Ebrill 2021

  • Day at Night: The Doris Day Songbook -  2 Chwefror 2021

  • Francis Rossi: I Talk Too Much -  22 Ebrill 2021

  • Johnny Cash Roadshow - 30 Ebrill 2021

  • Ladyboys of Bangkok - 13 Mawrth 2021

  • Lost in Music - 27 Chwefror 2021

  • Owen Money’s Jukebox Heroes 3 - 26 Mawrth 2021

  • Seven Drunken Nights – 6 Mawrth 2021

  • The Bon Jovie Experience - 30 Ionawr2021

  • The Bowie Experience – 26 Chwefror 2021

  • The Carpenters Story – 24 Ebrill 2021

  • The Johnny Cash Roadshow – 30 Ebrill 2021

  • The Upbeat Beatles - 29 Ionawr 2021

  • Walk Right Back - The Everly Brothers Story - 3 Mai 2021

  • Woman Like Me: Little Mix Show - 17 Ebrill 2021

Sioeau o fis Medi tan Ragfyr 2020

Ni fydd unrhyw sioe arall a oedd ar y gweill yn Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon tan 31 Rhagfyr 2020 yn cael ei chynnal. Mae hyn yn cynnwys pantomeim blynyddol hynod o boblogaidd y theatr yn y gaeaf, sef Robin Hood eleni, ac unrhyw berfformiadau a oedd wedi cael eu hail-amserlennu i’r dyddiadau hyn.  
Er bod y theatr yn bwriadu symud cymaint o berfformiadau rheolaidd â phosibl i ddyddiadau newydd, gan nad yw'r rhain wedi eu cadarnhau ar hyn o bryd, bydd pob cwsmer yn cael cynnig ad-daliad llawn. Gofynnir i gwsmeriaid beidio â chysylltu â'r theatr a chysylltir ag unrhyw un sydd â thocynnau ar gyfer perfformiad drwy e-bost neu dros y ffôn gyda manylion am sut mae cael ad-daliad, credyd neu gyfrannu at y theatr os dymunant.

Tocynnau Rhodd

Os ydych wedi prynu talebau rhodd nad ydych wedi'u defnyddio eto, byddwn yn ychwanegu estyniad i’r dyddiad ar y rhain fel y gellir eu defnyddio pan fyddwn yn ailagor.  
Os oedd eich taleb wedi'i defnyddio i archebu gweithgaredd a oedd fod i ddigwydd yn ystod y cyfnod pan oedd yn rhaid i ni gau, unwaith y byddwn yn ailagor, byddwn yn cysylltu â chi i aildrefnu eich gweithgaredd. 
Os oedd eich taleb wedi'i defnyddio i archebu perfformiad yn y theatr sydd wedi'i chanslo ers hynny, bydd gwerth y daleb yn cael ei chadw ar eich cyfrif i'w defnyddio ar gyfer archebion yn y dyfodol. 

Cefnogwch Ni

Gan mai elusen a sefydliad dosbarthu dielw yw Casnewydd Fyw, os ydych yn gallu ac yn dymuno ein cefnogi yn ystod y cyfnod anodd hwn, gallwch ddarganfod sut isod.

Cefnogwch Ni


Cysylltu â Ni

Os oes angen i chi gysylltu â ni yn ystod y cyfnod yr ydym ar gau, nid yw ein llinellau ffôn yn weithredol ar hyn o bryd, felly anfonwch e-bost at enquiries@newportlive.co.uk neu drwy'r cyfryngau cymdeithasol @NewportLiveUK.

Gofynnwn am eich amynedd a'ch dealltwriaeth yn ystod y cyfnod hwn. Mae eich holl adborth cadarnhaol wedi ein calonogi’n fawr, ac rydym yn hynod ddiolchgar.