Oherwydd y sefyllfa ddigynsail, ni fydd unrhyw ddigwyddiad a oedd ar y gweill yn Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon tan 31 Rhagfyr yn mynd rhagddynt. Mae hyn yn cynnwys pantomeim blynyddol hynod o boblogaidd y theatr, a fyddai’n Robin Hood y gaeaf hwn.

Er bod y theatr yn bwriadu symud cymaint o berfformiadau rheolaidd â phosibl i ddyddiadau newydd, gan nad yw'r rhain wedi eu cadarnhau ar hyn o bryd, bydd pob cwsmer yn cael cynnig ad-daliad llawn. Gofynnir i gwsmeriaid beidio â chysylltu â'r theatr a chysylltir ag unrhyw un sydd â thocynnau ar gyfer perfformiad drwy e-bost neu dros y ffôn gyda manylion am sut mae cael ad-daliad, credyd neu gyfrannu at y theatr os dymunant. 

Dywedodd Alan Dear, Pennaeth Theatr, y Celfyddydau a Diwylliant Casnewydd Fyw, sy'n gyfrifol am redeg y theatr, "gyda gofid a thristwch mawr rydym wedi gorfod gwneud y penderfyniad hwn; fodd bynnag, diogelwch ein cwsmeriaid, ein staff a'n perfformwyr yw'r flaenoriaeth uchaf. O dan y canllawiau presennol, yn cynnwys y rhai sy’n berthnasol i dorfeydd ac ymbellhau cymdeithasol, ni fydd yn bosibl cyflwyno rhaglen tymor yr hydref yn ôl y bwriad.

"Byddwn yn cysylltu â chwsmeriaid sydd wedi archebu tocynnau ac yn gofyn i gwsmeriaid fod yn amyneddgar gyda ni ar yr adeg hon gan fod Glan yr Afon yn dal i fod ar gau ac mae gennym nifer fawr o ad-daliadau i weithredu.

"Diolch i bob un o'n cwsmeriaid a'n partneriaid sydd wedi bod yn gefnogol iawn.  Fel rhan o ymddiriedolaeth elusennol, mae cefnogaeth barhaus a theyrngarwch ein cwsmeriaid yn allweddol i'n helpu i ddarparu gwasanaethau ar gyfer ein cymuned yn y dyfodol ac os hoffai cwsmeriaid yn gallu roi gwerth eu tocynnau yn rhodd i gefnogi ein prosiectau celfyddydol lleol yn y dyfodol byddem yn ddiolchgar iawn.

"Er na fydd ein prif raglen theatr yn mynd rhagddi, rydym yn obeithiol y bydd Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yn ailagor yr hydref hwn wrth i ni geisio cyflwyno ffyrdd amgen o ddifyrru pobl, gan gynnwys yn ystod cyfnod y Nadolig, yn ogystal â'u helpu i fod yn greadigol a chefnogi eu lles corfforol a meddyliol."

Er na fydd y perfformiadau hyn yn mynd rhagddynt, bydd Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yn gweithio ar brosiectau creadigol eraill. Yn dilyn cais llwyddiannus i Gronfa Sefydlogi Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer Sefydliadau, bydd y mudiad yn lansio rhaglen o ddosbarthiadau ar-lein, gweithdai a deunyddiau addysgol sy'n datblygu o raglen gyfredol y theatr, yn cynnwys dawns, cerddoriaeth, drama a dosbarthiadau ffitrwydd sy'n seiliedig ar y celfyddydau.  Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda phartneriaid yn ogystal â chomisiynu artistiaid lleol a gaiff eu cefnogi gyda’r cyfle i fanteiso ar gyfleusterau Glan yr Afon i helpu i gynnig eu rhaglen gyfredol ar-lein ac i ddatblygu gwaith newydd.