Galwad agored: artistiaid sy’n gweithio yn y celfyddydau cyfranogol I fod yn rhan o ‘lwybr hyfforddi artistiaid’, rhaglen hyfforddi ar gyfer artistiaid cyfranogol

 

Mae Llwybr Hyfforddi Artistiaid Cymru yn gynllun peilot Cymru gyfan dan arweiniad Artworks Cymru i gefnogi artistiaid llawrydd sy’n gweithio gyda chelfyddydau cyfranogol.  Bydd y Llwybr yn sefydlu perthynas a sgwrs fel hyfforddiant rhwng artist-hyfforddwr ac artist-hyfforddai lle caiff yr hyfforddwyr archwilio eu hymarfer, eu dyheadau, eu hanghenion a’u potensial mewn modd strwythuredig mewn lleoliadau trwy Gymru.

Mae'r bartneriaeth yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb gan artistiaid yng Nghasnewydd ac ardal ehangach Gwent o ran cael eu hyfforddi gan yr hyfforddwr artistig, Jon Dafydd-Kidd, trwy gymorth Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan-yr-Afon. 

Bydd artistiaid dethol yn mynd i berthynas hyfforddi â Jon, a fydd yn cynnwys pedair sesiwn unigol. Oherwydd goblygiadau Covid-19, bydd y sesiynau hyn yn cael eu cynnal trwy Zoom.

Rhaglen AM DDIM yw hon ac fe'i hwylusir trwy gymorth Cyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Paul Hamlyn. 

 

MEINI PRAWF 

Rydym yn awyddus i glywed gan artistiaid o bob dull celf a chefndir. 

Rhaid i artistiaid:

·      fod ag o leiaf 12 mis o brofiad proffesiynol yn y sector celfyddydau cyfranogol (wrth arwain neu gefnogi);

·      bod ar gael ar gyfer sesiynau rhwng diwedd mis Chwefror a mis Ebrill 2021;

·      bod yn barod a gallu ymrwymo i gynnal sesiynau hyfforddi gyda Jon Dafydd-Kidd (pedair sesiwn unigol);

·      bod yn barod a gallu ymrwymo i fyfyrio ynghylch y rhaglen a’i gwerthuso;

·      byw a/neu weithio yn ardal Casnewydd neu yn ardal ehangach Gwent

Proses recriwtio agored yw hon.

Os oes gennych gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â hello@jdkcoach.com

 

 

DYDDIAD CAU AR GYFER GWNEUD CAIS 

Dydd Llun 8 Chwefror, 5pm

 

AMSERLEN

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau Dydd Llun 8 Chwefror, 5pm

Rhoddir gwybod i bob ymgeisydd am y detholiad Erbyn 15 Chwefror      

Cyflwyniad Sesiwn Grŵp I bob artist-hyfforddai gwrdd a chysylltu  (ar-lein)

Penderfynir ar amseriadau unigol ar gyfer sesiynau ar wahân a byddant yn cael eu trefnu wrth ystyried ymrwymiadau'r Hyfforddwr a’r artistiaid.

 

CYFLWYNO EICH DATGANIAD O DDIDDORDEB​​​​​​​

Dylech anfon

  • Copi o'ch CV diweddaraf, a
  • Llythyr eglurhaol byr (nad yw’n hwy nag un ochr A4) neu fideo (nad yw’n hwy na 2 funud) yn dweud wrthym am:
    • eich profiad fel Artist cyfranogol
    • eich ymarfer, gan gynnwys prosiectau presennol a sut rydych yn gweld eich ymarfer eich hun
    • yr hyn yr ydych yn gobeithio ei gael gan y rhaglen hyfforddi

Anfonwch eich cais a'ch ffurflen cyfle cyfartal i hello@jdkcoach.com gyda'r testun: 'Llwybr Hyfforddi Artistiaid Glan yr Afon 2021' 

Dyddiad Cau:  Dydd Llun 8 Chwefror, 5pm

 

AM YR HYFFORDDWR ​​​​​​​

Jon ydy Pennaeth Cyfranogiad yn Theatr Hijinx, ac mae'n canolbwyntio ar ddatblygu sut mae'r sefydliad yn gweithio gyda'r sectorau cymunedol ac ieuenctid. Mae wedi dechrau ar drydydd cam ei waith gydag Age Cymru: cARTrefu ar ôl bod yn Artist-fentor trawsddulliau celf drwy gam dau.

Creodd a chynhaliodd Ymgynghoriad Pobl Ifanc cyntaf Music Theatre Wales ac mae wrthi'n archwilio cam dau. Mae hefyd yn gweithio ar ei liwt ei hun gyda nifer o sefydliadau yng Nghymru a’r tu hwnt.

Mae Jon yn Gadeirydd IIAN (Rhwydwaith Celfyddydau Cynhwysol Rhyngwladol), yn Gynrychiolydd Rhyngwladol ASSITJ UK, ac yn Gadeirydd TYA Cymru (theatr i gynulleidfaoedd ifanc).

Mae Jon yn agos at ddiwedd ei Ddiploma mewn Hyfforddi Trawsnewidiol, oriau hyfforddi achrededig gan y Ffederasiwn Hyfforddwyr Rhyngwladol, ac achrediad llawn gan y Gymdeithas Hyfforddi.

 

GWYBODAETH YCHWANEGOL​​​​​​​

Mae ArtWorks Cymru yn bartneriaeth o 29 sefydliad o bob cwr o Gymru sy'n cyflwyno celfyddydau cyfranogol. Daw’r bartneriaeth ynghyd i gyflwyno rhaglenni datblygu sector yn ôl y galw.

Dysgwch fwy am ein gwaith yn www.artworks.cymru

Cymerodd chwe artist-hyfforddwr ran yn y cwrs hyfforddi preswyl lle datblygodd y grŵp y rhaglen hyfforddi mewn cydweithrediad â Courtney Boddie o New Victory Theatre, Efrog Newydd. 

Mae Llwybr Hyfforddi Artistiaid Cymru yn rhan o raglen ArtWorks Cymru 2019 - 2021 ac fe'i hariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Paul Hamlyn. 

 

Paul Hamlyn Foundation logoLottery funding strip logos​​​​​​​