Mae ‘Levelling the Playing Field’ (LtPF) - project £1.7m sy’n defnyddio grym chwaraeon i fynd i’r afael â gor-gynrychiolaeth grwpiau lleiafrifol ac ethnig yn y system cyfiawnder ieuenctid - wedi lansio ei wefan newydd. 

Mae LtPF yn cael ei lywio gan ymchwil helaeth sy'n dangos bod plant du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) yn llai tebygol o gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol, ac yn fwy tebygol o fod yn rhan o'r system cyfiawnder troseddol. 

Drwy ffurfio partneriaeth â sefydliadau strategol a chyflenwi arbenigol ledled Cymru a Lloegr, gan gynnwys Casnewydd Fyw sy'n gweithredu fel partner strategol ar gyfer Gwent, nod LtPF yw cryfhau cyfleoedd chwaraeon lleol sy'n hygyrch ac yn cyfoethogi i 11,200 o blant BAME sydd mewn perygl o ymuno â'r system cyfiawnder troseddol neu sydd eisoes yn ymwneud â hi. Drwy rymuso pobl leol a gweithio gyda sefydliadau gan gynnwys Casnewydd Fyw, mae'r prosiect yn helpu i sicrhau'r cymorth rheng flaen mwyaf posibl mewn cymunedau yr effeithir arnynt.

Wrth i'r prosiect ddatblygu, bydd straeon am ei lwyddiant a'i effaith yn ymddangos yn adran astudiaethau achos a sianelau cyfryngau cymdeithasol LtPF. 

Wedi'i yrru gan y grant uchaf erioed o £1miliwn gan Ymddiriedolaeth Elusennol Marathon Llundain, rheolir LtPF gan y Gynghrair Chwaraeon mewn Cyfiawnder Troseddol mewn partneriaeth â'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid. Mae'n cynnwys partneriaeth o sawl rhanddeiliad -  dros 60 o sefydliadau gan gynnwys Casnewydd Fyw. 

Dywedodd arweinydd y prosiect, Rudro Sen:  "Ar ôl profi a gwerthuso yn ein pedwar maes cyflawni cychwynnol, ein nod yw cynyddu ein gweithgarwch ledled Cymru a Lloegr, gan ddod â mwy o gyfleoedd a chefnogaeth i'n buddiolwyr, mwy o gysylltedd ac ymddiriedaeth gydag asiantaethau cyfiawnder troseddol lleol ac yn y pen draw llai o blant o grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn ymwneud â throseddu."

Mae Tîm Datblygu Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol Casnewydd Fyw eisoes yn creu ac yn hwyluso cyfleoedd chwaraeon o ansawdd uchel i blant, teuluoedd, ysgolion, cymunedau, clybiau chwaraeon a grwpiau lleol.

Mae parch mawr yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol i’r Tîm Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol yng Nghasnewydd, gan bartneriaid fel Chwaraeon Cymru, Chwaraeon Anabledd Cymru, Street Games, a Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent. Maent wedi ennill gwobrau a chael eu cydnabod am eu dyfeisgarwch a'u harfer da. Mae'r rhaglen Dyfodol Cadarnhaol a ddarperir gan y Tîm Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol yn arwain y gwaith o gyflawni'r prosiect LtPF ac mae'n gweithio gyda nifer o bartneriaid cyflawni hanfodol i sicrhau y bydd y bobl ifanc sydd ei angen fwyaf yn elwa o'r prosiect. 

Maent yn gwybod y gall chwaraeon a gweithgarwch corfforol gael effaith mor gadarnhaol ar fywydau pobl gan gynnwys plant, teuluoedd, grwpiau penodol, a chymunedau amrywiol.  Mae'r tîm yn ymdrechu i wneud gwahaniaeth yn ein cymunedau ac yn annog mwy o bobl i wirioni ar chwaraeon am oes.

Siaradodd Lucy Donovan, Uwch Swyddog Datblygu Dyfodol Cadarnhaol Casnewydd Fyw â LtPF am gyfraniad Casnewydd Fyw i’r prosiect: "Gofynnwyd i brosiect Dyfodol Cadarnhaol Casnewydd Fyw fod yn rhan o LtPF gan y Gynghrair Chwaraeon oherwydd ein profiad o weithio yn y sector Chwaraeon ar gyfer Datblygu yng Nghymru; gan gefnogi pobl ifanc sy'n agored i niwed ac mewn perygl wrth ddefnyddio pŵer Chwaraeon i ennyn brwdfrydedd ac ymgysylltu.

"Mae Casnewydd wedi bod yn rhan o raglen Chwaraeon i bobl y gymuned BAME drwy bartneriaeth â Chwaraeon Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru dros y blynyddoedd diwethaf. Mae gan Gasnewydd Fyw raglen fywiog sydd wedi'i chyflwyno mewn partneriaeth â nifer o bartneriaid lleol sy'n ymgysylltu'n rheolaidd â phobl ifanc o amrywiaeth o gefndiroedd gan gynnwys Ffoaduriaid, Ceiswyr Lloches a Theithwyr Sipsi/Roma. 

"Roedd yn gwneud synnwyr bod yn rhan o brosiect cenedlaethol a oedd yn helpu i godi proffil y materion y mae llawer o bobl ifanc BAME sy'n byw yng Nghasnewydd yn cael trafferth gyda hwy bob dydd, a'n nod yw gadael etifeddiaeth barhaol drwy ein rhaglen i sicrhau bod y ddarpariaeth yn bodoli ar gyfer pobl ifanc BAME ar ddiwedd y prosiect tair blynedd LtPF."

I gael gwybod mwy am y prosiectau cymunedol a ddarperir gan Gasnewydd Fyw, ewch i http://www.newportlive.co.uk/en/community-support/  

Ewch i levellingtheplayingfield.org a dilynwch y prosiect ar Twitter, Instagram a Facebook i gael gwybod mwy.